Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/09/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||
SL(6)370 – Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)371 – Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)373 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)375 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol |
||
SL(6)367 – Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)368 – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.40 - 13.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 |
|
SL(6)374 – Y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.45 - 13.50) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)364 – Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog. |
||
(13.50 – 14.05) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Drafnidiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd. |
||
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Dilysu Dulliau Amgen ar gyfer Teipio Salmonela (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth
gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Adroddiad Cysylltiadau Rhynglywodraethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth
gan y Prif Weinidog a’r Adroddiad Cysylltiadau Rhyngwladol. |
||
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth
gan y Prif Weinidog. |
||
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a gohebiaeth gyda hi: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cynllun Symud Manwerthu: Iechyd y Cyhoedd, Safonau Cynnyrch Marchnata ac Organig a Darpariaethau Amrywiol) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth
gyda’r Gweinidog. |
||
Datganiad Ysgrifenedig a Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth
gan y Gweinidog. |
||
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Gorfodi etc.) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth
gan y Gweinidog. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog am ragor o
wybodaeth. |
||
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth
gan y Gweinidog. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog am ragor o
wybodaeth. |
||
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cymorth Ariannol) (Marcio Nwyddau Manwerthu) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth
gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Nwyon Tŷ Gwydr wedi'u Fflworeiddio (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Rhif 2) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog. |
||
(14.05 – 14.20) |
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg ac Addysg. . Canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch Addysg Ddewisol yn y Cartref Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y
Gymraeg ac Addysg. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Pwyllgor Busnes: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y
Pwyllgor Busnes. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Craffu ar waith Gweinidogion Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. |
||
Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Confensiwn Cyngor Ewrop ar Ddull Integredig o ran Diogeledd, Diogelwch a Gwasanaethau mewn Gemau Pêl-droed a Digwyddiadau Chwaraeon Eraill Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog at y
Llywydd. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Datganiad ar gynnydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cywiriad i gofnod 10 Gorffennaf Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Cytundebau rhyngwladol: Y DU/Y Swistir: Cytundeb ar Gydnabyddiaeth gan y Ddwy Ochr o Gymwysterau Proffesiynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Prif Weinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 6) ynghylch y Bil Caffael. Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog. |
||
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, a’r ohebiaeth gan y Gweinidog at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. |
||
Cyflwyniadau ysgrifenedig: Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cyflwyniadau a ddarparwyd i'r
ymchwiliad. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Craffu ar waith Gweinidogion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 6) ynghylch y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2). Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog. |
||
(14.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(14.20 - 15.05) |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft. |
|
(15.05 - 15.15) |
Cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:
Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y
cytundebau mewn cyfarfod yn y dyfodol. Croesawodd y Pwyllgor benderfyniad Llywodraeth y DU i
beidio â chychwyn y broses graffu cyn cadarnhau ar gyfer y Protocol ar Dderbyn
Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i’r CPTPP am o leiaf dri mis, a
fydd yn caniatáu mwy o amser i bwyllgorau wneud gwaith craffu ar y protocol
sydd wedi’i gyhoeddi. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn
perthynas â dau o’r cytundebau: Confensiwn y DU-Norwy-Liechtenstein-Gwlad yr Iâ
ar Gydgysylltu Nawdd Cymdeithasol a’r Protocol yn diwygio’r Confensiwn
Rhyngwladol ar Gadwraeth Tiwna’r Iwerydd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i dynnu sylw pwyllgorau
perthnasol Senedd Cymru a Senedd y DU at y cytundebau rhyngwladol. |
|
(15.15 - 15.25) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Ardrethu Annomestig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft. |