Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 27/02/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Nid oedd dim ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)321 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)322 - Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)323 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod yr offeryn wedi’i dynnu’n ôl cyn y
cyfarfod. |
||
SL(6)324 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2023 Rheoliadau [Saesneg
yn unig] Memorandwm
Esboniadol [Saesneg yn unig] Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb
Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.35 - 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - a drafodwyd yn flaenorol. |
|
SL(6)312 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol. |
||
(13.40 - 13.45) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Rheoliadau Rhestrau Gwledydd Cymeradwy (Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr
gan y Gweinidog. |
||
(13.45 - 13.50) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cywiriadau i offerynnau statudol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Banc Seilwaith y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: |
||
Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan Teuluoedd yn Gyntaf mewn Addysg - Cymru: Addysg gartref Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Teuluoedd yn Gyntaf
mewn Addysg - Cymru, a chytunodd i ymateb. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth
Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes. |
||
(13.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig. |
|
(13.50 - 14.00) |
Cyflwyniad drafft i Bwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Senedd yr Alban: Sut mae datganoli yn newid ar ôl ymadael â’r UE? Ymchwiliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cyflwyniad drafft i ymchwiliad
Pwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Senedd yr Alban. |
|
(14.00 - 14.15) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Caffael: Nodyn Cyngor Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol. |
|
(14.15 - 14.30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|
(14.30 - 14.40) |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol: Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|
Affirmative Resolution Instruments |
||
Made Negative Resolution Instruments |
||
Made Negative Resolution Instruments |