Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/02/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Nid oedd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.                                                                  

 

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

2.1

SL(6)321 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

2.2

SL(6)322 - Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

2.3

SL(6)323 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod yr offeryn wedi’i dynnu’n ôl cyn y cyfarfod.

2.4

SL(6)324 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) 2023

Rheoliadau [Saesneg yn unig]

Memorandwm Esboniadol [Saesneg yn unig]

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.35 - 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - a drafodwyd yn flaenorol.

3.1

SL(6)312 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

(13.40 - 13.45)

4.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

4.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

4.2

Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Rheoliadau Rhestrau Gwledydd Cymeradwy (Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid) (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog.

(13.45 - 13.50)

5.

Papurau i'w nodi

5.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cywiriadau i offerynnau statudol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

5.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Banc Seilwaith y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3

Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

5.4

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

5.5

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

5.6

Gohebiaeth gan Teuluoedd yn Gyntaf mewn Addysg - Cymru: Addysg gartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Teuluoedd yn Gyntaf mewn Addysg - Cymru, a chytunodd i ymateb.

5.7

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes.

(13.50)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig.

 

(13.50 - 14.00)

7.

Cyflwyniad drafft i Bwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Senedd yr Alban: Sut mae datganoli yn newid ar ôl ymadael â’r UE? Ymchwiliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cyflwyniad drafft i ymchwiliad Pwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Senedd yr Alban.

(14.00 - 14.15)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Caffael: Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol.

(14.15 - 14.30)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

(14.30 - 14.40)

10.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.