Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 07/11/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Anfonodd Huw Irranca Davies AS a Rhys ab Owen AS eu
ymddiheuriadau. Roedd Carolyn Thomas AS a Llyr Gruffydd AS yn bresennol fel
dirprwyon. Yn unol â’r cynnig a dderbyniwyd yn y cyfarfod blaenorol, Alun
Davies oedd y Cadeirydd dros dro. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. Dogfennau ategol: |
|
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||
SL(6)271 – Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
(13.35 - 13.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol |
||
SL(6)272 – Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: SL(6)285 - The
Child Minding and Day Care (Disqualification) (No. 2) (Wales) Regulations 2022 |
||
SL(6)276 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol |
||
SL(6)270 – Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)275 – Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
(13.45 - 13.50) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)267 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, a
nododd ef. |
||
(13.50 - 14.00) |
Datganiadau Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C |
|
WS-30C(6)014 - Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. |
||
WS-30C(6)015 - Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. |
||
WS-30C(6)016 - Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad a chytunwyd i ysgrifennu at
y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach. |
||
WS-30C(6)017 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. |
||
(14.00 - 14.05) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheoli Mercwri (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cyflyrau Ffytoiechydol (Diwygio) (Rhif 3) 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Rheoli Cymorthdaliadau (Cymorthdaliadau a Chynlluniau o Ddiddordeb neu Ddiddordeb Penodol) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y
Gweinidog. |
||
(14.05 - 14.15) |
Papurau i’w nodi |
|
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y
Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: Y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog at y Llywydd. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Rheoliadau Rheoli Ffiniau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr
gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: WS-30C(6)011 - Rheoliadau Anifeiliaid, Bwyd, Iechyd Planhigion, Deunyddiau Lluosogi Planhigion a Hadau (Diwygiadau Amrywiol etc.) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog. |
||
Gohebiaeth ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyrau a anfonwyd at y Gweinidog
Newid Hinsawdd. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler
Cyffredinol. |
||
Gohebiaeth gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder: Mynediad at Gyfiawnder: Crynodeb o’r Gwaith Ymgysylltu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Is-ysgrifennydd
Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder. |
||
(14.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(14.15 - 14.20) |
Trafodaeth am ohebiaeth ynghylch materion deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ymhellach yr eitemau o ohebiaeth a
nodwyd o dan eitem 7 a chytunwyd i ddychwelyd at y llythyr gan y Gweinidog
Newid Hinsawdd mewn perthynas â Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig
Untro) (Cymru) yn ei gyfarfod nesaf. |