Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-1024 Gwneud ymwybyddiaeth amgylcheddol yn orfodol ac yn fodiwl allweddol mewn ysgolion yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn (Addysg Gynradd ac Uwchradd) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd. O
ystyried bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrthi’n craffu ar y Bil
Cwricwlwm ac Asesu a chynnwys y Cwricwlwm newydd i Gymru, cytunodd y Pwyllgor i
godi’r ddeiseb gyda’r Pwyllgor hwnnw. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i
ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb. |
|
P-05-1030 Mesurau i atal dyfeisiau diwifr rhag cael eu defnyddio mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nodwyd yr ohebiaeth a gafwyd a’r sicrwydd ynghylch
ymchwil a chanllawiau a ddarparwyd gan y Gweinidog. Daeth y Pwyllgor i’r
casgliad nad oes llawer o obaith o wneud mwy o gynnydd ar y mater hwn, a
chytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb. |
|
P-05-1031 Atal yr arfer o ddargyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm drwy ardaloedd preswyl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd.
Cytunodd, o ystyried yr amgylchiadau penodol a arweiniodd at godi'r ddeiseb, y
byddai'n fwy priodol pe bai Aelodau lleol yn mynd i'r afael â'r materion.
Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr. |
|
P-05-1033 Dylid diddymu ffioedd cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) a diwygio ei drefniant yn llwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu at Gyngor y Gweithlu Addysg i ofyn: ·
am ei ymateb i’r ddeiseb a’r materion eraill a nodwyd gan
y deisebydd; ac ·
i gael rhagor o wybodaeth am weledigaeth y sefydliad, sut
mae'n cefnogi athrawon a staff ysgolion i gyflawni eu rolau ac am gyflawniadau
nodedig ers ei sefydlu. |
|
P-05-1034 Dylid ailagor theatrau a lleoliadau perfformio yng Nghymru mewn pryd ar gyfer tymor yr ŵyl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y ddeiseb ac ymateb y Gweinidog iddi.
Daeth i’r casgliad bod amgylchiadau’r mesurau sydd ar waith i reoli’r feirws
wedi newid ers cyflwyno’r ddeiseb yn anffodus, ac erbyn hyn, nid oes fawr o
obaith realistig y bydd lleoliadau’n gallu agor ar gyfer perfformiadau’r ŵyl. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny, roedd yr aelodau am ysgrifennu yn ôl at
Lywodraeth Cymru i nodi pwysigrwydd caniatáu i leoliadau o'r fath ailagor yn
gyflym pan fydd yr amgylchiadau'n caniatáu hynny. |
|
P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd
bwysigrwydd y materion a godwyd. Yn sgil awgrym y Gweinidog fod canllawiau
wedi'u diweddaru ar y mater hwn yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd, cytunodd yr
Aelodau y byddent yn aros am ragor o wybodaeth a chopi o'r canllawiau cyn
penderfynu pa gamau pellach y byddai'n briodol eu cymryd ar y ddeiseb. |
|
P-05-1036 Caniatáu swigod cefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunwyd y byddant yn aros i ganllawiau manwl newydd
gael eu cyhoeddi ar y rheolau a fydd yn berthnasol o 9 Tachwedd, gyda'r bwriad
o gau'r ddeiseb os na fydd y materion y mae’r ddeiseb yn eu codi yn berthnasol
mwyach, neu byddant yn dychwelyd at y ddeiseb mewn cyfarfod yn y dyfodol os
bydd materion o hyd y mae angen eu trafod ymhellach. |
|
P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chroesawodd
y newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i blant deithio y tu allan
i ardaloedd â chyfyngiadau lleol cyn cyflwyno'r cyfnod atal byr. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth i ofyn a yw'n rhagweld y byddai hyn yn parhau i fod yn berthnasol
pe bai angen cyfyngiadau symud lleol yn y dyfodol. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-882 Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb
ac, o ystyried y gwaith a’r ffocws parhaus ar y mater a amlinellwyd gan y
Comisiynydd Pobl Hŷn, cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd
am ei waith yn ymchwilio i’r anghenion pwysig hyn a thynnu sylw atynt. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i
dynnu sylw at y ffaith bod gwaith i’w wneud, yn enwedig o ystyried yr
amgylchiadau presennol, i sicrhau bod gan y grŵp o bobl agored
i niwed y mae'r mater hwn yn effeithio arnynt y wybodaeth sydd ei hangen arnynt
i'w cadw'n ddiogel yng ngoleuni lefelau parhaus o allgáu digidol. |
|
P-05-926 Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb
a nododd fod canllawiau NICE ar gyfer syndrom blinder cronig yn cael ei adolygu
ar hyn o bryd ac y bydd fersiwn wedi'i diweddaru yn cael ei chyhoeddi ym mis
Ebrill 2021. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac i
ysgrifennu at y deisebydd i ddiolch iddi am gymryd rhan yn y broses ac i’w
hannog i gyfrannu at yr adolygiad o ganllawiau NICE. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor
y byddai’n tynnu sylw NICE at y ddeiseb a’r dystiolaeth a glywyd. |
|
P-05-1014 Rhowch statws "gweithwyr allweddol" i bractisau deintyddol a'u staff Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb
a, gan fod y deisebydd yn fodlon â’r ymateb gan y Gweinidog, cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb. |
|
P-05-984 Dylid rhoi'r gorau i ymgynghoriadau o bell sy'n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb
ac, yn sgil yr ohebiaeth ddiweddaraf a gafwyd, daeth y Pwyllgor i’r casgliad
nad oes llawer mwy y gellid ei gyflawni ar yr adeg hon. Cytunodd y Pwyllgor i
gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb
ac, yn sgil y cyngor a ddarparwyd gan RNIB a Chŵn Tywys Cymru, ac ymrwymiad y Gweinidog y bydd y
pryderon ynghylch byrddau A yn cael eu trafod ymhellach fel rhan o’r gwaith ar
y Model Cymdeithasol o Anabledd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch
i’r deisebydd. |
|
P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb
a nododd yr argymhellion diweddar a gynhyrchwyd gan Dasglu Cymru ar gyfer
parcio ar y palmant a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhain yn llawn. Yng ngoleuni'r bwriad i roi mwy
o bwerau gorfodi sifil i awdurdodau lleol o ran parcio ar y palmant, cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ymgyrchu ar y mater hwn, gan
roi gwybod iddi y bydd y materion y mae'n eu codi ynghylch gorfodi, adrodd a
chodi ymwybyddiaeth yn cael eu hystyried gan y grŵp gweithredu gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid. |
|
P-05-944 Gwrthdroi'r toriadau i wasanaethau trenau cymudwyr yng Ngogledd-ddwyrain Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb
a chytunwyd i gadw golwg ar y mater hyd nes ddiwedd y Senedd hon ac ailedrych
ar y ddeiseb os bydd gwasanaethau trenau yn dychwelyd i’w hamserlenni sylfaenol
yn ystod y cyfnod hwn. |
|
P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar ddinas ADY Dogfennau ategol:
Cofnodion: ·
amlinelliad o'r camau nesaf ar gyfer cyllid Anghenion Dysgu
Ychwanegol yn dilyn cyhoeddi'r adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru yn
ddiweddar ac yng ngoleuni'r pryderon a fynegwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru; a ·
gwybodaeth am ba gyllid a ddarperir i gefnogi diagnosis
anghenion dysgu ychwanegol. |
|
P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a'u hathrawon i blant gweithwyr allweddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb
ac, yng ngoleuni’r sicrwydd a roddwyd gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â
blaenoriaethu plant gweithwyr allweddol a gan fod y deisebydd yn fodlon,
cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi’r mater. |
|
P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i nodi’r ohebiaeth a gafwyd cyn y
ddadl ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 4 Tachwedd, ac y
byddai’n dychwelyd at y ddeiseb ar ôl y ddadl honno. |
|
P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i nodi’r ohebiaeth a gafwyd cyn y
ddadl ar y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 4 Tachwedd, ac y
byddai’n dychwelyd at y ddeiseb ar ôl y ddadl honno. |
|
P-05-910 Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r camau sy'n cael eu cymryd ar
hyn o bryd i ddatblygu gwasanaethau thrombectomi mecanyddol ymhellach, gan
gynnwys datblygu gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ac ehangu
argaeledd gwasanaethau eraill i sicrhau eu bod ar gael 24/7. Gan fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i
gyflawni’r camau hyn, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer mwy y gellir
ei gyflawni ar hyn o bryd, a chytunodd i gau’r ddeiseb. |
|
P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb
a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn: ·
am ragor o fanylion ynglŷn â sut mae'r rhaglen sgrinio'r coluddyn yn cael ei hadfer,
a’r cynnydd ar hyn o bryd; ac ·
am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd pellach a
wnaed o ran hunan-atgyfeirio i bobl dros 74 oed. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Etem 5. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Arferion Gwaith y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ddadansoddiad o’r cynnydd diweddar o
ran nifer y bobl sy’n defnyddio proses ddeisebau’r Senedd. Cytunodd y Pwyllgor
i wneud rhai addasiadau i'w ddull o drafod deisebau i'w helpu i nodi'r materion
hynny a fyddai'n elwa o graffu manylach, a cheisio datrys y mwyafrif o
ddeisebau o fewn cyfnod byrrach, o ystyried pa mor agos yw etholiadau nesaf y
Senedd. Hefyd, nododd y Pwyllgor y nifer sylweddol o ddeisebau
sydd wedi mynd y tu hwnt i’r trothwy 5000 llofnod ar hyn o bryd a chytunodd i
drafod y mater hwn ymhellach, gan gynnwys opsiynau ar gyfer diwygio'r trothwy
dros dro neu'n barhaol, yn ei gyfarfod nesaf. Hefyd, trafododd
y Pwyllgor y rhestr gyfredol o ddadleuon y gofynnwyd amdanynt a chytunodd i
beidio â pharhau i geisio dadl ar ei adroddiad ar P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng
mewn Lladd-dai a P-05-916 Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn
lladd-dai Cymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Ionawr 2020 ond ni lwyddwyd i’w
drafod bryd hynny. O ystyried faint o amser sydd wedi mynd heibio, cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am eu cyfraniad. |