P-05-1034 Dylid ailagor theatrau a lleoliadau perfformio yng Nghymru mewn pryd ar gyfer tymor yr ?yl

P-05-1034 Dylid ailagor theatrau a lleoliadau perfformio yng Nghymru mewn pryd ar gyfer tymor yr ?yl

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1034 Dylid ailagor theatrau a lleoliadau perfformio yng Nghymru mewn pryd ar gyfer tymor yr Ŵyl

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jacob Dyer, ar ôl casglu cyfanswm o 157 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​Bydd mwyafrif theatrau rhanbarthol y DU yn creu mwy o incwm yng nghyfnod 'yr Ŵyl' nag ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn. Mae amser yn prysur ddiflannu i theatrau gael gwybod a fyddan nhw’n cael agor mewn pryd ar gyfer y cyfnod hwn. Er bod llawer o'r lleoliadau proffil uchel yng Nghymru eisoes wedi gohirio eu cynyrchiadau Nadolig, mae cannoedd a fydd yn gallu cynhyrchu a pherfformio theatr yn ddiogel o gael digon o rybudd eu bod yn cael agor.

 

Rhaid trafod y mater hwn a’i ddatrys yn brydlon.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

​Mae theatrau Cymru ar gau ac nid oes dim gwybodaeth am bryd y gallai’r sefyllfa hon newid. Ar hyn o bryd gall tafarndai a bwytai agor gyda threfniadau i gadw pellter cymdeithasol rhwng byrddau, gall campfeydd agor gyda phellter cymdeithasol rhwng defnyddwyr, a gall addoldai agor gyda’u cynulleidfaoedd yn cadw pellter cymdeithasol. Ond nid felly theatrau.

 

Os caniateir iddyn nhw agor, gall theatrau sicrhau bod cwsmeriaid yn cadw pellter cymdeithasol, naill ai trwy werthu seddi unigol neu drwy werthu seddi ar gyfer grwpiau teuluol (yn union fel archebu bwrdd mewn bwyty). Mae theatrau yn barod ar gyfer dilyn ac olrhain am eu bod eisoes yn lleoliadau sydd â systemau gwerthu tocynnau. Gellir gofyn i gynulleidfaoedd wisgo masgiau, gellir cwtogi perfformiadau, a gellir peidio â chynnal egwylion er mwyn lleihau ciwio ac ati.

Gellir rhoi’r holl fesurau hyn ar waith i sicrhau bod cynulleidfaoedd, perfformwyr a staff yn ddiogel. Ond nid yw theatr yn gweithio fel tap. Mae angen digon o rybudd arnom y byddwn yn cael agor er mwyn ymarfer, cynllunio, adeiladu, rigio a gweithio'n ddiogel.

 

Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu theatrau Cymru.

 

A picture of a live performance and a crowd

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb ac ymateb y Gweinidog iddi. Daeth i’r casgliad bod amgylchiadau’r mesurau sydd ar waith i reoli’r feirws wedi newid ers cyflwyno’r ddeiseb yn anffodus, ac erbyn hyn, nid oes fawr o obaith realistig y bydd lleoliadau’n gallu agor ar gyfer perfformiadau’r ŵyl. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

Wrth wneud hynny, roedd yr aelodau am ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i nodi pwysigrwydd caniatáu i leoliadau o'r fath ailagor yn gyflym pan fydd yr amgylchiadau'n caniatáu hynny.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/11/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Preseli Sir Benfro
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/10/2020