P-05-1036 Caniatáu swigod cefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud
P-05-1036 Caniatáu swigod cefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud
P-05-1036 Caniatáu swigod
cefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Louise Vaughan, ar ôl casglu cyfanswm o 108
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Er mwyn gwarchod lles meddyliol ac
emosiynol y boblogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud, dylid caniatáu rhieni
sengl a’r rheini sy’n byw ar eu pennau eu hunain i ffurfio swigen gefnogaeth
gydag aelwyd arall, a gadael i gyplau sy’n byw ar wahân i ymweld â chartrefi ei
gilydd, fel sy’n cael ei ganiatáu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
12/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y rheolau cyfredol ar ffurfio swigod cefnogaeth. Nododd yr Aelodau, yn
lefelau rhybuddio 3 a 4, y caniateir i aelwydydd ag oedolyn sengl ymuno ag
aelwyd arall ond na fyddai hyn yn galluogi cyplau i allu mynd i mewn i gartrefi
ei gilydd ym mhob amgylchiad. Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa, cytunodd y
Pwyllgor nad oedd unrhyw waith pellach y gallai ei wneud ar y mater hwn ar hyn
o bryd a chaeodd y ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/11/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/11/2020