P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY

P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY

Wedi'i gwblhau

 

P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Iwan Williams, ar ôl casglu cyfanswm o 106 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i glustnodi cyllideb ychwanegol i ysgolion ar draws Cymru, er mwyn medru darparu'r addysg ychwanegol sydd ei hangen ar ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac i wireddu amcanion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae diffyg adnoddau gan ysgolion ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial.

 

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn datgan y canlynol:

"Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p'un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol."

 

Ar hyn o bryd nid oes gan ysgolion ddigon o adnoddau i fedru cynnig y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen ar eu disgyblion.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 12/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y Gweinidog Addysg. Yn sgil sawl ymateb clir gan y Gweinidog nad yw cyllid i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau addysg yn eu hardaloedd yn cael ei neilltuo, mae’r adolygiad diweddar o gyllid ysgolion a’r gwaith monitro arfaethedig o weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y pwynt hwn a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/12/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Aberconwy
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2019