P-05-1030 Mesurau i atal dyfeisiau diwifr rhag cael eu defnyddio mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd
P-05-1030 Mesurau i atal dyfeisiau diwifr rhag cael eu defnyddio mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd
P-05-1030 Mesurau i atal dyfeisiau diwifr rhag cael eu
defnyddio mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Camilla Watts, ar ôl casglu cyfanswm o 55 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i osod
cyfyngiadau llymach ar ddefnyddio dyfeisiau diwifr mewn meithrinfeydd ac
ysgolion cynradd.
Rhaid
i rieni / gofalwyr gael gwybod am y peryglon iechyd sydd wedi'u darganfod.
Rhaid
sicrhau caniatâd rhieni / gofalwyr ymlaen llaw cyn gosod / defnyddio dyfeisiau
WiFi.
Rhaid
i'r canlyniadau canrannol fod yn glir i'r holl rieni / gofalwyr a'r rheini sydd
â dyletswydd gofal.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Rhaid sicrhau nad oes dyfeisiau WiFi yn cael eu
defnyddio mewn un rhan o'r adeilad ar gyfer y rhai sydd yn erbyn defnyddio'r
dyfeisiau hyn.
Os yw'r canlyniadau'n dangos nad yw'r
rhieni/gofalwyr yn rhoi caniatâd, a'r ysgol eisoes yn defnyddio dyfeisiau WiFi
a diwifr amrywiol, rhaid dadactifadu'r WiFi/Bluetooth a rhaid rhag-raglennu
cymwysiadau addysgol ar gyfrifiaduron / tabledi etc.
Cyhoeddodd WHO (Sefydliad Iechyd y Byd)
ynghyd ag IARC (yr Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil i Ganser) ysgrif yn
archwilio pa mor garsinogenig yw ymbelydredd tonnau radio-amledd
electromagnetig 30 KHZ i 300GHZ.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nodwyd yr
ohebiaeth a gafwyd a’r sicrwydd ynghylch ymchwil a chanllawiau a ddarparwyd gan
y Gweinidog. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes llawer o obaith o wneud mwy
o gynnydd ar y mater hwn, a chytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i
gau’r ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/11/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ynys Môn
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/09/2020