P-05-1031 Atal yr arfer o ddargyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm drwy ardaloedd preswyl

P-05-1031 Atal yr arfer o ddargyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm drwy ardaloedd preswyl

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1031 Atal yr arfer o ddargyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm drwy ardaloedd preswyl

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Vivienne Blondek, ar ôl casglu cyfanswm o 53 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal yr arfer o ddargyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm drwy ardaloedd preswyl. Mae'r ffyrdd mabwysiedig hyn y mae'r Cyngor Sir yn gyfrifol amdanynt, yn cael eu defnyddio i ddargyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm pan fydd cefnffyrdd ar gau, gan greu risg sylweddol i'r preswylwyr, eu heiddo a'r ffyrdd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

​Mae tystiolaeth gref fod preswylwyr yn dioddef amddifadedd cwsg difrifol oherwydd bod Cerbydau Nwyddau Trwm yn mynd heibio i'w heiddo o fewn troedfeddi. Mae hyn yn creu sŵn a bydd waliau a drysau eu cartrefi'n dirgrynu bob tro y bydd Cerbyd Nwyddau Trwm yn mynd heibio pan gânt eu dargyfeirio dros nos tra bydd cefnffyrdd yn cael eu trwsio. Hefyd, maent yn bygwth saernïaeth eu cartrefi. Mae diffyg cwsg, am gyfnod byr neu am gyfnod hwy, yn effeithio cryn dipyn ar weithgareddau bob dydd ac mae'r cynnydd mewn allyriadau afiach hefyd yn ychwanegu at y peryglon. Gellid osgoi hyn i gyd drwy baratoi cynlluniau a strategaethau ar gyfer systemau gwrthlif.

 

Ni chafodd y ffyrdd hyn eu hadeiladu ar gyfer traffig trwm ac mae Cynghorau Sir yn brwydro'n barhaus i drwsio'u ffyrdd. Ni chafodd eiddo preswyl hŷn nac eiddo preswyl mwy diweddar, eu hadeiladu i ymdopi â'r holl Gerbydau Nwyddau Trwm sy'n teithio ar ein ffyrdd heddiw.  Mae ffyrdd osgoi wedi'u hadeiladu i osgoi ardaloedd preswyl ac ers hynny, mae traffig o'r math hwn wedi  cynyddu'n sylweddol. Nid yw'n dderbyniol bellach ystyried dargyfeirio Cerbydau Nwyddau Trwm ar hyd priffyrdd cyhoeddus sy'n mynd drwy ardaloedd dwys eu poblogaeth.

 

A close up of a road

Description automatically generated

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd. Cytunodd, o ystyried yr amgylchiadau penodol a arweiniodd at godi'r ddeiseb, y byddai'n fwy priodol pe bai Aelodau lleol yn mynd i'r afael â'r materion. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/11/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Alun a Glannau Dyfrdwy
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/09/2020