P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)
P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)
P-05-935 Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant
(Pavement Promise)
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Rhian Morris, ar ôl casglu cyfanswm o 801 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Galwaf ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i orfodi gwaharddiad ar barcio ar balmentydd.
Rwy'n ymgyrchu i ddod â pharcio ar balmentydd i
ben. Mae'n fater cynyddol sy'n effeithio ar fy hun a chymaint o rai eraill yng
Nghymru bob dydd gan beryglu eu diogelwch. Mae'n fater enfawr i'r rheini ag
anabledd a'r rhai â chadeiriau gwthio. Mae hyn yn arbennig o anodd pan fydd
cerbydau'n parcio ar y cwrb isel neu'r palmant botymog.
Ar sawl achlysur mae'r cerbyd sydd wedi'i barcio
ar y palmant yn achosi i'r olygfa o'r ffordd ddod yn gyfyngedig. Mae hyn yn
achosi i'r sefyllfa ddod yn beryglus i unrhyw un sy'n gorfod mynd ar y ffordd i
basio'r cerbyd. Mae risg llawer uwch i'r rheini sydd â nam ar eu golwg neu
ddefnyddwyr cadeiriau olwyn symud i'r peryglon anhysbys.
Dylai fod gan bawb yr hawl i annibyniaeth. Fodd
bynnag, pan fydd cerbydau'n parcio ar y palmant, mae hyn yn cyfyngu'r rhai na
allant yrru ac sy'n dibynnu ar y palmant i deithio o amgylch eu cymuned. Gall
hyn hefyd arwain at unigedd a phryder.
Dylid ymdrin â hyn nawr fel bod gan
genedlaethau'r dyfodol yr un siawns o annibyniaeth a diogelwch i bawb yn ein
cymunedau.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae gen i a fy mab nam
ar ein golwg. Mae'r mater hwn yn ei gwneud hi'n anodd iawn inni gael mynediad
i'n cymuned yn ddiogel. Rydw i wedi siarad â llawer o bobl sydd hefyd yn ei
chael hi'n anodd.
Fe wnes i a fy mab
greu ymgyrch o'r enw Addewid Palmant (Pavement Promise). Rydyn ni am i bawb
addo peidio â pharcio ar y palmant.
Rwy'n teimlo y dylid
cael tîm penodol i weithio ar y mater hwn. Efallai ffordd ryngweithiol/ar-lein
i bobl gyflwyno gwybodaeth.
Rydw i am i fy mab
gael cymaint o annibyniaeth ag y gall yn ei ddyfodol mewn modd diogel. Helpwch
fi i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a nododd yr
argymhellion diweddar a gynhyrchwyd gan Dasglu Cymru ar gyfer parcio ar y
palmant a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhain yn llawn.
Yng ngoleuni'r bwriad i roi mwy o bwerau gorfodi sifil i awdurdodau lleol o
ran parcio ar y palmant, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r
deisebydd am ymgyrchu ar y mater hwn, gan roi gwybod iddi y bydd y materion y
mae'n eu codi ynghylch gorfodi, adrodd a chodi ymwybyddiaeth yn cael eu
hystyried gan y grŵp gweithredu gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/02/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses
ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2020