P-05-1024 Gwneud ymwybyddiaeth amgylcheddol yn orfodol ac yn fodiwl allweddol mewn ysgolion yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn (Addysg Gynradd ac Uwchradd)

P-05-1024 Gwneud ymwybyddiaeth amgylcheddol yn orfodol ac yn fodiwl allweddol mewn ysgolion yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn (Addysg Gynradd ac Uwchradd)

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1024 Gwneud ymwybyddiaeth amgylcheddol yn orfodol ac yn fodiwl allweddol mewn ysgolion yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn (Addysg Gynradd ac Uwchradd)

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Patricia Noemi Diaz, ar ôl casglu cyfanswm o 141 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​Byddai ymwybyddiaeth a gweithredu amgylcheddol fel rhan o'r fframwaith addysgol yng Nghymru yn berthnasol i'r Ddeddf Llesiant ac agenda addysg Cymru.

 

Nod y ddeiseb yw bod Llywodraeth Cymru yn ystyried bod pob ysgol yng Nghymru yn cynnig modiwl craidd o'r blynyddoedd cynnar ar yr amgylchedd gan annog ymwybyddiaeth a gweithredu. Gall fod yn fenter hollbwysig sy'n annog pobl ifanc i chwarae rhan yn eu hamgylchedd drwy gael eu haddysgu am yr amgylchedd a rhoi cyfle iddynt fynd ati i'w amddiffyn ar hyd y cwricwlwm ym mhob blwyddyn ysgol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

​Mae addysg amgylcheddol yn hanfodol i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn defnyddio'r mesurau sydd eu hangen i warchod ein hamgylchedd. Mae'n hanfodol dod â natur i'r ystafell ddosbarth er mwyn tynnu sylw plant ysgol (a'u rhieni yn anuniongyrchol) at yr angen am newid. Dylai ymwybyddiaeth amgylcheddol a natur fod ar sail gyfartal â dosbarthiadau allweddol ym mhob ysgol yng Nghymru.

 

Mae'n hanfodol bod plant yn tyfu i fyny â dealltwriaeth dda, addysg am faterion cyfredol sy'n effeithio ar fyd natur a gwybodaeth am ba gamau y gallant eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd amrywiol yr ydym yn byw ynddo. Mae hefyd yn eu dysgu o ddydd i ddydd am barch at natur.

 

A group of people in a room

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd. O ystyried bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrthi’n craffu ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu a chynnwys y Cwricwlwm newydd i Gymru, cytunodd y Pwyllgor i godi’r ddeiseb gyda’r Pwyllgor hwnnw. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/11/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ynys Môn
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/09/2020