Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1334 Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y Ddeiseb a chytunodd i'w hanfon at Bwyllgor Biliau Diwygio’r Senedd a'i
chadw ar agor tan y cyflwynir y Bil i'r Senedd. |
|
P-06-1344 Dylid defnyddio tir amaethyddol o ansawdd cymedrol (gradd 3b) ar gyfer diogeledd bwyd ac nid ar gyfer ffermydd solar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb, a chynnig y
Gweinidog i rannu'r adolygiad o’r dystiolaeth gyda'r Pwyllgor. Yng ngoleuni
hyn, cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor tan y cynhelir yr adolygiad
o'r dystiolaeth. |
|
P-06-1345 Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i wneud cais
am ddadl ar y ddeiseb. |
|
P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes bod Senedd Ieuenctid Cymru
yn rhannu ei chanfyddiadau ar yr arolwg y mae’n yn ei gynnal ar hyn o bryd ar
drafnidiaeth gyhoeddus, a ddisgwylir yn ddiweddarach yn nhymor yr hydref. |
|
P-06-1347 Adolygu polisïau anghenion dysgu ychwanegol a'i gwneud yn orfodol i hyfforddi pob athro a chynorthwyydd addysgu mewn technegau rheoleiddio YN LLAWN Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w hanfon at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg, ynghyd â'r ohebiaeth a ddaeth i law. Bydd yn gwneud cais i'r ddeiseb
gael ei hystyried fel rhan o'i ymchwiliad presennol i fynediad cyfartal at
addysg a gofal plant. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ddychwelyd at y mater i'w
ystyried ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben. |
|
P-06-1349 Dim dinasoedd na threfi '15' neu faint bynnag o funudau yng Nghymru heb gynnal pleidlais gyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chau o gofio bod y Gweinidog wedi datgan yn
glir iawn nad oes cynlluniau o'r fath i gyflwyno 'dinasoedd 15 munud' yng
Nghymru. |
|
P-06-1350 Ailagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw'r ddeiseb ar agor tan y ceir diweddariad
o gyfarfod cyhoeddus Llais sydd wedi’i drefnu yn ddiweddarach ym mis Medi. Yn ogystal â hyn,
cytunodd y Pwyllgor i anfon y ddeiseb at i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr a gofyn beth sy'n cael ei wneud am y mater. |
|
P-06-1351 Dylid sicrhau bod proses sgrinio'r galon ar gael i bob person ifanc 11-35 oed sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd bwyslais cryf y Gweinidog ar bwysigrwydd arweiniad
Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a’r canllawiau a'r dystiolaeth a gafwyd gan
Sefydliad Prydeinig y Galon. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor nad oes lle
i fynd â'r ddeiseb ymhellach a chytunodd i'w chau. Wrth wneud hynny, diolchodd
yr Aelodau i’r deisebydd am dynnu sylw’r Pwyllgor at y mater pwysig hwn. |
|
P-06-1352 Cymeradwyo adeiladu trydedd bont dros y Fenai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor tan y ceir ymateb y Gweinidog
i gynigion Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ar gyfer Menai. |
|
P-06-1354 Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi rasio milgwn yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor tan ymgynghoriad Llywodraeth
Cymru a ddisgwylir yn ddiweddarach eleni. Cafodd y deisebydd a'r deisebydd sy’n
galw am Wahardd Rasio Milgwn eu hannog gan y Cadeirydd i ymgysylltu ag
ymgynghoriad Llywodraeth Cymru. |
|
P-06-1355 P-06-1355 Dylid cynnal refferendwm yn gofyn am gymeradwyaeth y bobl i gynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 36 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod disgwyl deddfwriaeth ar y mater hwn yn fuan, a
bydd Pwyllgor yn cael ei sefydlu yn y Senedd i graffu arni. Yng ngoleuni hyn,
cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1356 Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gysylltu â Samuel Kurtz AS i drefnu ymweliad â
chyffordd 'Mynegpost' yr A477. Cytunodd yr
Aelodau hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i wneud cais am ddadl ar y
ddeiseb yn dilyn yr ymweliad â’r safle. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1269 Peidiwch â gadael i'r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy'n marw yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y deisebwyr yn croesawu ymateb y Gweinidog ac
yn falch bod ffrydiau gwaith a grwpiau arbenigol wedi'u sefydlu. Er bod gan y
deisebwyr gwestiynau pellach ar y mater, maent yn cydnabod eu bod yn mynd y tu
hwnt i gwmpas y ddeiseb. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb
a diolch i’r deisebydd am ei ymgysylltiad parhaus. |
|
P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd bod y Gweinidog yn parhau i fod yn sicr bod
Rheoliadau a Chod 2008 yn addas i'r diben, er bod y Pwyllgor wedi tynnu sylw
Llywodraeth Cymru at bryderon y deisebydd.
Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r
deisebydd am dynnu sylw at bryderon ynghylch effaith llosgi dan reolaeth. |
|
P-06-1327 Cyfleusterau Canolfannau Hamdden am ddim i blant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n tynnu
sylw at yr heriau sy’n gysylltiedig â diffinio beth fyddai am ddim, a sut y
byddai'r gost o'i chyflawni yn cael ei thalu, yn y tymor byr a'r tymor hir. Yng
ngoleuni hyn, caeodd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i blant Ysgol Mynydd
Bychan am ymgysylltu â'r Pwyllgor Deisebau.
|
|
P-06-1336 Gwersi Cymraeg am ddim i bawb sydd isio dysgu'r iaith yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymateb blaenorol gan y Gweinidog a oedd yn glir
nad oes cynlluniau i ddarparu darpariaeth Dysgu Cymraeg am ddim i bawb, a'r
ymateb manwl diweddar gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn amlinellu'r ystod o
opsiynau, cefnogaeth benodol am ddim a'r ystod o gymorth ariannol sydd ar
gael. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr
Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
|
|
P-06-1338 Ymestyn y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a datblygu cynllun adfer cenedlaethol ar gyfer bysiau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiynydd Pobl Hŷn ac Age Cymru i ofyn am eu barn ar y
ddeiseb. Yn ogystal,
cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Carolyn Thomas AS i ofyn am ei barn ar y
ddeiseb ac a fyddai'n gallu cynorthwyo'r Pwyllgor gyda'i gwybodaeth am y mater. |
|
P-06-1340 Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi. Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
y ddadl a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mehefin. O ystyried y bydd
proses weithredu'r terfyn cyflymder o 20mya yn dod i rym ar 17 Medi cytunodd yr
Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Papur i'w nodi - Deiseb y flwyddyn – Gwerthusiad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nodwyd y papur. |
|
Trafod y flaenraglen waith Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith |