P-06-1351 Dylid sicrhau bod proses sgrinio'r galon ar gael i bob person ifanc 11-35 oed sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon

P-06-1351 Dylid sicrhau bod proses sgrinio'r galon ar gael i bob person ifanc 11-35 oed sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sharon Owen, ar ôl casglu cyfanswm o 3,671 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

O blith y 269 o bobl ifanc wnaeth farw’n sydyn yn y DU y llynedd, roedd 49 ohonynt yn athletwyr cystadleuol â chyflyrau heb eu diagnosio ar y galon.

Mae sgrinio'r galon wedi bod yn broses orfodol i bawb yn eu harddegau ac oedolion sy'n cystadlu mewn chwaraeon athletaidd yn yr Eidal ers 1982, gyda gwledydd eraill yn Ewrop yn cynnig prosesau sgrinio tebyg. Gwaetha’r modd, mae Cymru a’r DU ar ei hôl hi. Byddai’n dda gweld Cymru’n chwarae rhan arweiniol yn y DU, yn hyn o beth.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ar sail ein sesiynau presennol sgrinio’r galon drwy broses electro-gardiogram, fe ganfyddom fod 1 o bob 4 sgriniad wedi datgelu'r angen am ymchwiliad pellach gydag eco-gardiogram.

 

A group of people playing football

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/09/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd bwyslais cryf y Gweinidog ar bwysigrwydd arweiniad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a’r canllawiau a'r dystiolaeth a gafwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor nad oes lle i fynd â'r ddeiseb ymhellach a chytunodd i'w chau. Wrth wneud hynny, diolchodd yr Aelodau i’r deisebydd am dynnu sylw’r Pwyllgor at y mater pwysig hwn.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/09/2023.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/07/2023