P-06-1345 Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ruperra Castle Preservation Trust, ar ôl
casglu 7,469 lofnodion ar lein a 3,111 lofnodion ar bapur, sydd yn wneud
cyfanswm o 10,580 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Wedi'i adeiladu yng Nghaerffili, 1626, mae Castell Rhiw'r Perrai yn
arwyddocaol yn hanes Cymru, un o lond llaw o Gestyll Pasiant sy’n weddill yn y
DU. Roedd yn gartref i'r teulu Morgan a Charles I, a'r fyddin yn yr Ail Ryfel
Byd. Ym 1941, llosgwyd y tu mewn yn ulw ac mae'n dal i fod yn adfail mewn
perygl. Mae’n heneb gofrestredig ac adeilad rhestredig Gradd II*, ond mae wedi
dirywio drwy berchnogaeth breifat. Mae un o'r tyrau wedi syrthio a, heb ymyriad
bwriadol, bydd yn dirywio ymhellach ac yn cael ei golli’n fuan...
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae henebion cofrestredig wedi’u gwarchod er mwyn cadw archaeoleg ac
adeiladau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu o'n gorffennol. Mae llawer o
henebion yn sefydlog, ond mae angen rheoli eraill er mwyn arafu neu osgoi
effeithiau dirywiad naturiol. Mae gwefan Cadw yn awgrymu y gallai fod yn
ddefnyddiol i’r perchnogion lunio Cynllun Rheoli Cadwraeth i lywio eu
penderfyniadau, ond nid yw'n ofyniad. Dylai Llywodraeth Cymru wneud Cynlluniau
Rheoli Cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl, er
mwyn osgoi esgeulustod a'u colli wedyn. Mae hyn yn cynnwys nodi arwyddocâd,
risgiau, a chyfleoedd i warchod a gwella'r heneb, er mwyn peidio â niweidio’r
hyn sy'n arbennig a sicrhau ein bod yn trosglwyddo'r hyn sy'n cael ei
werthfawrogi i genedlaethau'r dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau na chaiff henebion
sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai eu hesgeuluso am 80 mlynedd arall.
Bydd hefyd yn helpu i leddfu pryder am golli rhannau arwyddocaol o'n
treftadaeth werthfawr ac yn cynorthwyo ein llesiant. Mae'r gymuned wedi bod yn
ceisio ei achub ers 25 mlynedd https://www.ruperracastle.wales/croeso.html.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Caerffili
- Dwyrain De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Cyfnod 1
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/07/2023