P-06-1349 Dim dinasoedd na threfi '15' neu faint bynnag o funudau yng Nghymru heb gynnal pleidlais gyhoeddus
P-06-1349 Dim dinasoedd na threfi '15' neu faint bynnag o funudau yng Nghymru heb gynnal pleidlais gyhoeddus
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Stan Robinson - Voice Of Wales, ar ôl casglu
cyfanswm o 4,682 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae'r rhai sy'n credu'r 'geiriau blodeuog' hyn yn pennu eu tynged eu hunain
os ydyn nhw’n credu nad carchar yw hwn!
Unwaith y bydd y seilwaith (rhwystrau, camerâu, gwylwyr newydd etc) wedi’u
gosod a'r dirwyon yn dechrau dod drwy'r drws – BYDD YN RHY HWYR!
Dyma’r cam nesaf yn yr ymdrech i’n caethiwo - cardiau adnabod iechyd, arian
digidol, ceir trydan, cartrefi trydan ac mae’n bosibl eu rheoli i gyd drwy droi
switsh.
Meddai Stan:- Minlliw ar Fochyn.
Peidiwch â chael eich twyllo - Mae'r rhai sy'n credu'r 'geiriau blodeuog'
hyn yn pennu eu tynged hunain os ydyn nhw’n credu nad carchar yw hyn!
Gwybodaeth Ychwanegol:
Efallai nad oes ffensys na bariau carchar ETO, ond sut fyddwch chi’n symud
o le i le (YN RHYDD) pan fydd eich Cyngor (AR Y DECHRAU) yn creu’r parthau hyn
ond dim cosb benodedig - AC YN DWEUD MAI DIM OND ‘Canllawiau ydyn nhw’!!
Gallaf weld nifer fawr yn cyd-fynd â’r newidiadau - yn dweud ‘Does dim byd
i boeni amdano'!
Unwaith y bydd y seilwaith (rhwystrau, camerâu, gwylwyr newydd etc) wedi’u
gosod a'r dirwyon yn dechrau dod drwy'r drws – BYDD YN RHY HWYR!
Dyma’r cam nesaf yn yr ymdrech i’n caethiwo - cardiau adnabod iechyd, arian
digidol, ceir trydan, cartrefi trydan ac mae’n bosibl eu rheoli i gyd drwy droi
switsh. Y dinesydd da, gwres, bwyd a theithio cyfyngedig. Y dinesydd amheus…
Mae angen i bawb wrthsefyll y dotalitariaeth hon ni waeth pa mor flodeuog a
lliwgar yw’r sothach.
https://tcpa.org.uk/wp-content/uploads/2021/11/final_20mnguide-compressed.pdf.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/09/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chau o gofio bod y Gweinidog
wedi datgan yn glir iawn nad oes cynlluniau o'r fath i gyflwyno 'dinasoedd 15
munud' yng Nghymru.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/09/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Abertawe
- Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2023