P-06-1327 Cyfleusterau Canolfannau Hamdden am ddim i blant
P-06-1327 Cyfleusterau Canolfannau Hamdden am ddim i blant
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tomos Michael Rogers, ar ôl casglu cyfanswm o
371 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae disgyblion Senedd Ysgol Mynydd Bychan yn credu'n gryf y dylai
cyfleusterau canolfannau hamdden bod am ddim i blant yng Nghymru. Fe fydd hyn
yn ein helpu i gadw'n heini a byw bywyd iach.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/09/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru sy'n tynnu sylw at yr heriau sy’n gysylltiedig â
diffinio beth fyddai am ddim, a sut y byddai'r gost o'i chyflawni yn cael ei
thalu, yn y tymor byr a'r tymor hir. Yng ngoleuni hyn, caeodd y Pwyllgor y
ddeiseb a diolchodd i blant Ysgol Mynydd Bychan am ymgysylltu â'r Pwyllgor
Deisebau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/05/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/04/2023