P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru
P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Maya James, ar ôl casglu 604 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae tân diweddar ar y Mynydd Mawr, Gwynedd, wedi tynnu sylw at y broblem
enfawr o "losgi dan reolaeth". Cafodd y tân ei gynnau yn ystod y
tymor a ganiateir (rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth 31) er gwaethaf y tywydd sych a’r
gwyntoedd cryfion diweddar, ac o gofio bod llawer o adar eisoes wedi dechrau
nythu.
Disgrifiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yr effaith drychinebus ar
y mynydd. Mae'r mwg wedi creu trafferth i bobl leol, ac roedd criwiau o dde
Cymru wedi gorfod dod i gynorthwyo hefyd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Ar un adeg, effeithiodd y tân ar ardal o tua 100,000 metr sgwâr. Nid yw hyn
yn ddigwyddiad unigryw.
Y llynedd, bu dros 2,000 o dannau glaswelltir yng Nghymru, ac roedd dros 75
y cant o’r rhain wedi eu cynnau yn fwriadol.
Mae'r tannau hyn yn:
• rhoi iechyd a diogelwch criwiau tân, a thrigolion ac eiddo lleol, yn y
fantol;
• peryglu bywydau pobl trwy ailgyfeirio ymdrech ac amser y gwasanaeth tân;
• arwain at gost annerbyniol i'r trethdalwr – gall hyn fod yn gannoedd o
filoedd o bunnoedd, yn ôl gwasanaeth tân Gogledd Cymru;
• rhyddhau carbon a chreu mwg mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd; ac yn
• cael effaith ofnadwy ar ein hadar nythu a bywyd gwyllt arall fel y wiber,
sydd yn barod mewn perygl, a hynny mewn argyfwng bioamrywiaeth. Yn
draddodiadol, roedd y cyfnod rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth yn oer a gwlyb yng
Nghymru, ond erbyn hyn mae'r hinsawdd wedi newid, gyda’r tywydd mwyn yn newid y
tymor nythu ac adfywiad bywyd gwyllt. Mae'r RSPB yn mynnu bod llosgi mawndir ar
yr ucheldiroedd yn dod i ben oherwydd y pryderon ynghylch cadwraeth a’r argyfwng
hinsawdd.
Rydym yn galw ar Llywodraeth Cymru i ddod â "llosgi dan reolaeth"
i ben ar fyrder.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/09/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd bod y Gweinidog yn parhau i fod yn
sicr bod Rheoliadau a Chod 2008 yn addas i'r diben, er bod y Pwyllgor wedi
tynnu sylw Llywodraeth Cymru at bryderon y deisebydd. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd am dynnu sylw at bryderon ynghylch effaith
llosgi dan reolaeth.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/11/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Delyn
- Gogledd Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/10/2022