P-06-1356 Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477
P-06-1356 Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elliott Morrison, ar ôl casglu cyfanswm o
10,310 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar ddydd Sadwrn 13 Mai 2023, collodd Ashley Thomas Rogers ei fywyd yn
drychinebus ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477 wrth deithio i gyfeiriad Penfro. Ei
farwolaeth ef yw’r drydedd farwolaeth ar y rhan honno o'r ffordd mewn 12
mlynedd. Ar ben hynny, mae nifer ddi-rif o ddamweiniau y bu ond y dim iddynt
ddigwydd ar y rhan honno a adwaenir yn lleol fel 'man gwael' ar gyfer
damweiniau traffig ar y ffordd. Digon yw digon. Mae’r ddeiseb hon yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud y peth iawn a blaenoriaethu bywydau pobl dros bwysau
cyllidebu dibwys.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/12/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a nododd ganlyniad cadarnhaol y ddeiseb. Diolchodd yr
Aelodau i'r deisebydd, y rhai a lofnododd y ddeiseb ac ymgyrchwyr lleol am eu
cefnogaeth i'r ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Wrth gloi'r
ddeiseb, roedd y Pwyllgor yn dymuno cofio Ashley Rogers ac eraill sydd wedi
colli eu bywydau’n drasig ar y gyffordd hon ac anfonwyd eu cydymdeimlad at eu
teuluoedd, eu ffrindiau a'u hanwyliaid.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
11/09/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerfyrddin a Dwyrain Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Hafan y
Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob
deiseb sydd ar agor
- Gweld pob
deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae
proses Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2023