P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf
P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Charlie Steven Evans, ar ôl casglu 381 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan annatod wrth gysylltu plant Cymru â
chyfleoedd addysgol, cymdeithasol a gwaith. Fodd bynnag, yn sgil yr argyfwng
costau byw, yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth
Cymru yn cymell trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn lleihau allyriadau carbon a
gwella twf economaidd.
Gwybodaeth ychwanegol:
Roedd
cynhadledd ENYA yn 2022, lle roedd 2 gynrychiolydd ifanc o Gymru yn bresennol,
yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a
fforddiadwy. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus
eco-gyfeillgar ddibynadwy, reolaidd, caffaeladwy, hygyrch, diogel a fforddiadwy
i bob ardal, gan gynnwys ardaloedd gwledig. (ENOC: https://enoc.eu/wp-content/uploads/ENYA-2022-FORUM-REPORT-FV.pdf).
Roedd
Cynllun Tocynnau 9-Ewro yr Almaen yn darparu cludiant diderfyn i deithwyr mewn
ardaloedd rhanbarthol a lleol, ac arbedodd 1.8 miliwn tunnell o CO2. Arweiniodd
y cynllun hefyd at gynnydd o 80% yn nifer y teithiau trên i ardaloedd
twristiaeth gwledig. (Wicipedia: https://en.wikipedia.org/wiki/9-Euro-Ticket#cite_note-16).
Mae
Trafnidiaeth Gyhoeddus yn anfforddiadwy, gan fod tocynnau Rheilffyrdd, Coets a
Bws wedi codi rhwng 33% a 74% yn ystod y degawd diwethaf. Mae hyn yn destun
pryder, o gofio nad oes gan 23% o Gymru, yn ogystal â'r mwyafrif o bobl o dan
18 oed y defnydd o gar. Mae pobl ifanc hefyd mewn mwy o berygl o brofi tlodi
trafnidiaeth, sy'n rhwystr rhag cael gafael ar gyfleoedd addysgol, cyflogaeth a
chymdeithasol. (Sustrans: https://www.sustrans.org.uk/media/10425/transportpovertypaper-sustrans_eng.pdf).
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ynys Môn
- Gogledd Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/08/2023