P-06-1340 Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Benjamin James Watkins, ar
ôl casglu cyfanswm o 21,920 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Nid yw'r penderfyniad hwn yn gynrychioliadol o'r farn
gyhoeddus ehangach ac o'r herwydd, nid yw'n ddemocrataidd i weithredu'r
newidiadau. Dylai newid i gyfreithiau ffyrdd ar y raddfa hon fod yn destun
pleidlais lawer ehangach neu o bosibl fel rhan o refferendwm yng Nghymru ar y
mater.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae'r defnydd o dwmpathau cyflymder a pharthau 20 mya
mewn ardaloedd adeiledig a ger ysgolion yn arfer a dderbynnir yn gyffredinol er
mwyn diogelu plant ac oedolion. Gallai lledu'r mesurau hyn arwain at gynnydd
mewn achosion o “gythraul gyrru" ac ymddengys nad yw, ar hyn o bryd, yn
ddim mwy na llif refeniw i bobl dalu dirwyon pan gânt eu dal yn goryrru (pan
maen nhw'n teithio ar gyflymder diogel).
Nid wyf hyd yn hyn wedi gweld barn yn cefnogi'r
newidiadau, rwyf wedi gofyn i lawer o bobl yn lleol ac wedi darllen y sylwadau
a adawyd gan lawer o bobl ar-lein. Yr ymateb negyddol i'r newidiadau oedd yr
ysgogiad i greu'r ddeiseb yma.
Bydd y newidiadau cyflymder newydd yn effeithio'n
anghymesur ar amseroedd cymudo pobl sy'n teithio i’r gwaith ar y ffordd, yn
enwedig mewn ardaloedd lle mae'r rhan fwyaf o ffyrdd yn 30mya ar hyn o bryd ac
nad oes ganddynt ffyrdd osgoi â chyfyngiadau cyflymder uwch.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Rhondda
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/05/2023