P-06-1334 Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru
P-06-1334 Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Seren Cole, ar ôl casglu cyfanswm o 258
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Senedd Cymru i ymchwilio i’r posibilrwydd o
gyflwyno Cwotâu ar sail Rhyw ac Ethnigrwydd yn ei systemau etholiadol ac mae’n
galw am fwy o gynrychiolaeth i bobl o gefndir anabledd. At hynny, mae’n gofyn
pa gamau y mae’r Senedd hon a’i phum rhagflaenydd wedi’u cymryd i sicrhau ei
bod yn adlewyrchu Cymru gyfan yn well.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae 5.2 y cant o bobl Cymru o gefndir
ethnig lleiafrifol, ond nid yw’r ffigur hwn yn cael ei adlewyrchu yng
nghyfansoddiad presennol y Senedd. At hynny, mae 48.9 y cant yn fenywod yn ôl y
Swyddfa Ystadegau Gwladol, gyda dros un o bob pump o’r boblogaeth yn nodi eu
bod yn anabl.
Fodd bynnag, nid yw Senedd Cymru’n adlewyrchu'r amrywiaeth hon.
Dim ond 43 y cant o’r Aelodau a etholwyd i’r Senedd sy’n fenywod, a thri
Aelod yn unig sydd o gefndir ethnig lleiafrifol, gyda phobl anabl yn gweld ond
ychydig gynrychiolaeth, os o gwbl. Bu gwelliannau yn y blynyddoedd diwethaf,
ond mae’r niferoedd hyn yn dal i fod yn syfrdanol o isel ac, o’r herwydd, mae
lleisiau mewn rhannau helaeth o boblogaeth Cymru heb gael eu clywed.
Mae angen cynrychiolaeth yn y Senedd, fel bod anghenion pawb yn cael eu
diwallu a'u deall gan eu llywodraeth.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/08/2023