P-06-1344 Dylid defnyddio tir amaethyddol o ansawdd cymedrol (gradd 3b) ar gyfer diogeledd bwyd ac nid ar gyfer ffermydd solar
P-06-1344 Dylid defnyddio tir amaethyddol o ansawdd cymedrol (gradd 3b) ar gyfer diogeledd bwyd ac nid ar gyfer ffermydd solar
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Campaign Against East Vale Over Development
(CAEVOD), ar ôl casglu cyfanswm o 263 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rhaid inni warchod tir categori 3b i sicrhau diogeledd bwyd:
• Dim ond 10-13 y cant o Gymru sydd yn dir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (gradd 1
i radd 3a). Mae newid hinsawdd yn peryglu newid i raddfeydd tir amaethyddol
• Mae tir 3b yn cynnal cnydau
• Mae ffermydd solar sydd â thir gradd 3a o fewn clytiau tir 3b yn cael eu
cymeradwyo (yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru). Mae adeiladu/datgomisiynu yn
difrodi tir yn barhaol; bydd tir categori 3a yn cael ei golli
• Nid oes dim rhwymedigaeth gytundebol i hawliadau pwrpas deuol wneud iawn
am golli tir - anaml y mae defaid yn pori o dan baneli solar.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae datblygwyr yn targedu polisïau cynllunio mwy caniataol Llywodraeth
Cymru: Llywodraeth Cymru sy’n penderfynu ar gynigion dros 10MW, ac awdurdodau
cynllunio lleol Lloegr a’r Alban sy’n penderfynu ar gynigion hyd at 50MW.
Safleoedd tir llwyd, eiddo preswyl ac adeiladau masnachol yw’r lleoedd mwyaf
addas ar gyfer paneli solar: defnyddiwch y cysylltiadau grid presennol, i
leihau biliau trydan i bobl leol a chyflenwch drydan dros ben i'r Grid
Cenedlaethol = llai o alw am drydan y grid, ac yna caiff ein tir amaethyddol
(ein diogeledd bwyd) ei gynnal.
• Polisi Pridd Llywodraeth Cymru ac Uned Cynllunio Defnydd Tir Amaethyddol
2018-19 Rhaglen Dystiolaeth Polisi Pridd Chwefror 2020
• PEDW DNS/3245065 Penderfyniad Gweinidog Cymru 27/10/22
• PEDW DNS/3267575 2022-12-19 REPS009WGNewidHinsawdd
Mae CAEVOD yn gwrthwynebu gorddatblygu yn Nwyrain Bro Morgannwg. Rydym yn
cefnogi ynni adnewyddadwy yn y lleoliad cywir: sef bod yn niwtral o ran carbon
yng Nghymru heb ddinistrio ein cefn gwlad.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/06/2023