P-06-1355 Dylid cynnal refferendwm yn gofyn am gymeradwyaeth y bobl i gynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 36
P-06-1355 Dylid cynnal refferendwm yn gofyn am gymeradwyaeth y bobl i gynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 36
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nigel Dix, ar ôl casglu 942 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Er bod llawer yn ei chael hi’n anodd bwydo a chynhesu eu hunain, mae
gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn mynnu ein bod ni, y trethdalwyr, yn ariannu 36
o Aelodau o’r Senedd ychwanegol, drud, eu staff ychwanegol a'r hualau
cysylltiedig â phŵer.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/09/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod disgwyl
deddfwriaeth ar y mater hwn yn fuan, a bydd Pwyllgor yn cael ei sefydlu yn y
Senedd i graffu arni. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
11/09/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Islwyn
- Dwyrain De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/09/2023