Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2023 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon - y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

(14:00 - 15:00)

2.

Sesiwn dystiolaeth 1 - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Neil Kenward, Ofgem

Cofnodion:

Holodd y Pwyllgor Neil Kenward o Ofgem am y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru.

 

(15:00 - 16:00)

3.

Sesiwn dystiolaeth 2 - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Chris O’Shea, Centrica

 

Dhara Vyas, Energy UK

 

Andrew Ward, Scottish Power Retail

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Holodd y Pwyllgor gynrychiolwyr o gwmnïau ynni am y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru.

 

4.

Deisebau Newydd

4.1

P-06-1324 Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi siomi pobl Gogledd Cymru a dylid ei rannu'n unedau llai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd nad oedd y Gweinidog o blaid gwahanu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cydnabu’r Pwyllgor y pryder ynghylch canlyniadau cleifion a nododd i’r mater hwn cael ei drafod yn helaeth yn y Cyfarfod Llawn ac yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Iechyd. Yn sgil hyn, penderfynwyd diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

4.2

P-06-1327 Cyfleusterau Canolfannau Hamdden am ddim i blant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am yr amcangyfrif gorau o gost darparu gwasanaethau canolfannau hamdden yn rhad ac am ddim i bobl ifanc. Penderfynodd y Pwyllgor drafod effaith y ddeiseb ar draws llawer o feysydd polisi megis iechyd a gweithgareddau i bobl ifanc.

 

4.3

P-06-1328 Dylid sicrhau bod yr holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol newydd (£10.90) ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. Gan fod y Llywodraeth yn gefnogol i’r syniad, a chan ei bod wedi buddsoddi i sicrhau cyflog byw gwirioneddol, penderfynodd y Pwyllgor longyfarch y deisebwyr a chau’r ddeiseb.

 

4.4

P-06-1329 Gosod uchelgais ac amserlen glir i roi addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yn y wlad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a phenderfynodd aros am ganlyniad adroddiad Pwyllgor Diwylliant y Senedd ar Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (sydd i'w gyhoeddi y mis hwn) ac ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.

 

4.5

P-06-1330 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod eu cynigion ar gyfer ailbrisio'r dreth gyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bydd ymgynghoriad pellach a phroses ddeddfwriaethol lawn cyn i unrhyw gynnig gael ei gyflwyno. Penderfynodd y Pwyllgor aros am i ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus gael eu cyhoeddi cyn cau’r ddeiseb.

 

4.6

P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r Pwyllgor Busnes am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb hon.

 

5.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

5.1

P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y mater a’i bod wrthi’n ceisio mynd i'r afael ag ef. Cytunodd y Pwyllgor i gadw’r ddeiseb ar agor a chroesawu’r cynnig o ddiweddariadau cynnydd pellach gan y Dirprwy Weinidog.

 

5.2

P-06-1213 Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chan fod y Gweinidog wedi penderfynu peidio â deddfu yn y maes hwn, penderfynwyd nad oedd dim i’w wneud ond diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

5.3

P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd y bu dadl fywiog yn y Siambr ar y pwnc hwn yr wythnos flaenorol. Penderfynodd y Pwyllgor gadw’r ddeiseb ar agor tra’n aros gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a’i adroddiad a ddisgwylir ym mis Tachwedd.

 

5.14

P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog ymateb i sylwadau a chwestiynau Tassia ac annog y Gweinidog i gwrdd â Tassia, sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino ar ran cleifion canser metastatig y fron.

 

5.5

P-06-1303 Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy’n gweithio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod adolygiad annibynnol o Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant yn 2022 i’w gyhoeddi’n fuan a chytunwyd i gadw’r ddeiseb ar agor tra’n disgwyl y cyhoeddiad hwnnw.

 

5.6

P-06-1325 Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymrwymiad y Gweinidog i adolygu’r terfyn cyflymder ar ôl i ganllawiau newydd gael eu cyhoeddi, a chytunwyd nad oedd fawr ddim arall y gallai’r Pwyllgor ei wneud. Caewyd y ddeiseb a diolchwyd i’r deisebydd.

 

6.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Cafodd y papurau eu nodi.

 

6.1

Papur i’w nodi - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Dogfennau ategol:

6.2

Papur i'w nodi - P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

6.3

Papur i'w nodi - P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru

Dogfennau ategol:

6.4

Papur i'w nodi - P-06-1326 Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

8.

Trafod tystiolaeth - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a’r camau nesaf.

 

9.

Adroddiad Blynyddol: Strwythur amlinellol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y strwythur arfaethedig.