P-06-1325 Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn
P-06-1325 Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Gwennol Ellis, ar ôl casglu 154 lofnodion ar-lein ac 117 o
lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 271 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw am osod terfyn cyflymder o 30mya ar yr A5 drwy bentref Glasfryn fel
mater o frys - cyn i rywun gael ei ladd.
Mae
teuluoedd yn byw ar fin y ffordd beryglus yma. Mae busnesau yn cael eu rhedeg
ar fin y ffordd ac mae amaethwyr a chontractwyr yn ei defnyddio bob dydd i
gynnal busnesau.
Dros
y blynyddoedd, bu nifer o ddamweiniau difrifol gan gynnwys un farwolaeth a sawl
digwyddiad agos i ddamwain. Mae hwn yn fater brys gan mai dim ond mater o amser
ydi hi cyn y ceir digwyddiad difrifol arall.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/05/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor
ymrwymiad y Gweinidog i adolygu’r terfyn cyflymder ar ôl i ganllawiau newydd
gael eu cyhoeddi, a chytunwyd nad oedd fawr ddim arall y gallai’r Pwyllgor ei
wneud. Caewyd y ddeiseb a diolchwyd i’r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/03/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Clwyd
- Gogledd Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/03/2023