P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod

P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod

O dan ystyriaeth

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Craig Shuttleworth, ar ôl casglu 11,306 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb:       

Mae feirws brech y gwiwerod yn cael ei gario a’i ledaenu gan wiwerod llwyd. Nid yw'r feirws yn eu niweidio nhw. O gael eu heintio, mae gwiwerod coch yn datblygu briwiau agored dros eu croen ac yn dioddef marwolaeth boenus o fewn pythefnos

Yng ngogledd Cymru, collwyd rhwng 70 a 80 y cant o wiwerod coch Gwynedd mewn brigiad o achosion yn 2020/21: https://theconversation.com/squirrelpox-outbreak-detected-in-north-wales-without-a-vaccine-the-disease-will-keep-decimating-red-squirrels-196811

Daeth cyllid Sefydliad Moredun ar gyfer ymchwil addawol i frechlyn i ben.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae Cynllun Diogelu’r Gwiwerod Coch yng Nghymru (tudalen 9) yn dangos bod y rhan fwyaf o wiwerod coch Cymru mewn coedwigoedd lle mae gwiwerod llwyd hefyd yn byw. Golyga hyn fod feirws y frech yn fygythiad mawr yng Nghymru. https://cdn.cyfoethnaturiol.cymru/media/691093/cym-cynllun-diogelu-r-wiwer-goch-yng-nghymru.pdf?mode=pad&rnd=132272074460000000 

Ym Mangor, cafwyd nifer o achosion o feirws brech y gwiwerod yn y cyfnod 2017-2022. Daethpwyd ar draws cyrff gwiwerod coch mewn coetir ger Pont Britannia a Phont Grog Telford. Yn hwyr neu’n hwyrach, bydd yr haint yn croesi’r Fenai a lledaenu i Ynys Môn. Mae’r ynys yn gartref i boblogaeth fwyaf Cymru o wiwerod coch.

Mae'r haint yn achosi symptomau erchyll:

http://www.britishredsquirrel.org/red-squirrels/disease/ 

Mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu ymchwil, megis yr ymchwil ohiriedig i frechlyn gan Moredun/Wildlife Ark Trust: https://www.dailyrecord.co.uk/news/local-news/red-squirrel-vaccine-under-threat-2540293. 

 

A squirrel on a tree

Description automatically generated with medium confidence

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Arfon
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/05/2023