P-06-1303 Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy'n gweithio

P-06-1303 Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy'n gweithio

O dan ystyriaeth

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gill Byrne, ar ôl casglu 96 lofnodion ar-lein ac 164 o lofnodion ar babur, sef cyfanswm o 260 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae gormod o rieni â theuluoedd ifanc yn cael eu hatal rhag manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, addysg a hyfforddiant yn sgil diffyg darpariaeth gofal plant lleol fforddiadwy. Mae’r sefyllfa hon yn cadw plant a theuluoedd mewn tlodi, yn lleihau dewis i gyflogwyr, ac yn cael effaith negyddol ar les teuluoedd ac economi Cymru. Mae angen ymyrraeth ar lefel wleidyddol i sicrhau bod y sefyllfa hon yn cael sylw.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Fel cyn swyddog datblygu ym maes gofal plant, gallaf gadarnhau bod y sefyllfa’n waeth nawr nag yr oedd 10-15 mlynedd yn ôl, gyda gostyngiad enfawr mewn lleoedd gofal plant i fabanod a phlant hŷn. Fel rhan o’i hymrwymiad i blant a theuluoedd yng Nghymru, mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried ar fyrder opsiynau ar gyfer sicrhau bod gofal plant fforddiadwy yn hawl i bob teulu, yn yr un modd ag y mae addysg. Dylai’r Llywodraeth hyd yn oed ystyried lleoli meithrinfeydd a lleoliadau gofal plant ar dir ysgolion, yn enwedig mewn adeiladau newydd neu safleoedd ysgol presennol lle mae digon o le i wneud hynny. Ni all y rhieni yr wyf yn eu hadnabod fanteisio ar gyfleoedd a fyddai o fudd i'w teuluoedd. Naill ai mae’r gofal plant yn anfforddiadwy, neu'n amlach na pheidio, nid oes gofal plant ar gael iddynt. Mae angen buddsoddiadau parhaus ar lefel Llywodraeth Cymru o ran darparu lleoedd gofal plant a darparu cymorthdaliadau ar eu cyfer. Gadewch i ni arwain y ffordd i weddill y DU!

 

A group of children playing with toys

Description automatically generated with medium confidence

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ceredigion
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/09/2022