P-06-1213 Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym

P-06-1213 Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Richard Jenkins, ar ôl casglu cyfanswm o 1,432 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae ein bywyd gwyllt a'u cynefinoedd eisoes o dan ymosodiad milain gan wareiddiad graddol, ymelwa ar adnoddau, llygredd a newid hinsawdd. Mae caniatáu defnydd heb ei reoli o'r cerbydau hamdden swnllyd, peryglus a llygrol hyn – gan ychwanegu at y difrod hwnnw – yn anghyfrifol! Dydyn nhw ddim yn cynnig unrhyw wasanaeth arall i ddynol ryw heblaw cyffro am ennyd. Mae hyn yn wastraffus yn ogystal ag anghyfrifol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae yna achosion o aflonyddwch, ymddygiad ymosodol a niwed bob dydd i ddefnyddwyr eraill y môr a bywyd gwyllt, gydag ambell achos yn cael ei gofnodi ac eraill ddim. Mae yna lawer o achosion o niwed corfforol a hyd yn oed marwolaeth i anifeiliaid a bodau dynol. Prin bod y defnydd hamdden o’r cerbydau pŵer uchel peryglus hyn yn cael ei reoli o gwbwl. Rhaid eu gwahardd o bob maes, ac eithrio meysydd posibl bach a phenodol, sydd wedi’u neilltuo i'r bobl hunanol hynny niweidio'u hunain yn unig. Gallai hynny fod yn rhy anodd. Os mai dyna’r achos, dylid eu gwahardd yn gyfan gwbl yng Nghymru.

 

photography of man riding personal watercraft during daytime

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/05/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chan fod y Gweinidog wedi penderfynu peidio â deddfu yn y maes hwn, penderfynwyd nad oedd dim i’w wneud ond diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/11/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/11/2021