P-06-1328 Dylid sicrhau bod yr holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol newydd (£10.90) ar unwaith

P-06-1328 Dylid sicrhau bod yr holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol newydd (£10.90) ar unwaith

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Glyn Williams, ar ôl casglu 328 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Gwnaeth Llywodraeth Cymru addewid i dalu'r cyflog byw GWIRIONEDDOL i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a oedd yn £9.90. Ym mis Medi, cynyddodd y Cyflog Byw Gwirioneddol a osodwyd gan y Real Living Wage Foundation (RLFW) i £10.90. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ceisio cael dau ben llinyn ynghyd mewn argyfwng costau byw. Maen nhw'n gweld gweithwyr achrededig y RLWF yn cael o leiaf £1 yr awr yn rhagor na hwy mewn swyddi llawer llai medrus. Fe fyddan nhw'n gadael y sector yn fuan!

https://llyw.cymru/gweithredur-cyflog-byw-gwirioneddol-ar-gyfer-gweithwyr-gofal-cymdeithasol.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae angen i arian gael ei alinio i ddyddiad gweithredu'r Real Living Wage Foundation (mis Tachwedd bob blwyddyn), neu bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo hyd yn oed yn fwy anniddig pan fydd yn codi eto y flwyddyn nesaf. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio'n fawr a’u bod yn cael cam gan Lywodraeth Cymru..

 

A picture of money

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/05/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb. Gan fod y Llywodraeth yn gefnogol i’r syniad, a chan ei bod wedi buddsoddi i sicrhau cyflog byw gwirioneddol, penderfynodd y Pwyllgor longyfarch y deisebwyr a chau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/05/2023.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ynys Môn
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/04/2023