P-06-1324 Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi siomi pobl Gogledd Cymru a dylid ei rannu'n unedau llai
P-06-1324 Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi siomi pobl Gogledd Cymru a dylid ei rannu'n unedau llai
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Stefan Coghlan, ar ôl casglu 1,017 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw Bwrdd Iechyd Lleol GIG Cymru ar
gyfer Gogledd Cymru. Dyma'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, sy'n darparu
gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac acíwt mewn ysbytai ar gyfer
poblogaeth o tua 694,000 o bobl yn chwe phrif ardal gogledd Cymru (Ynys Môn,
Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam) yn ogystal â rhannau o
ganolbarth Cymru. Mae wedi bod i mewn ac allan o fesurau arbennig er 2015.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae
BIPBC wedi cael cyfres o brif weithredwyr a swyddogion gweithredol sydd, yn
ddieithriad, wedi methu â mynd i’r afael â’r drychineb sefydliadol enfawr o ran
gofal Betsi. Nid yw gwasanaethau fasgwlaidd, gwasanaethau strôc, amseroedd aros
trychinebus mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, Iechyd Meddwl ac
amseroedd aros andwyol am lawdriniaethau arfaethedig yn cael eu trin â digon o
frys. Mae pobl Gogledd Cymru wedi cael cam. Nid oes gwaith craffu ar
benderfyniadau'r bwrdd yn digwydd ac mae cleifion yn dioddef yn ddiangen.
Mae'n
amser cyfaddef bod y sefydliad yn llawer rhy fawr ac anhylaw i ymateb i'r
heriau sy’n ei wynebu, a'i rannu'n unedau daearyddol llai sy'n ymateb i
anghenion eu poblogaethau lleol.
Yn ei gyfarfod ar 15/05/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd nad
oedd y Gweinidog o blaid gwahanu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cydnabu’r Pwyllgor y pryder ynghylch canlyniadau cleifion a nododd i’r mater
hwn cael ei drafod yn helaeth yn y Cyfarfod Llawn ac yn y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor Iechyd. Yn sgil hyn,
penderfynwyd diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 15/05/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Clwyd
- Gogledd Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/03/2023