Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/01/2025 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

Cafwyd ymddiheuriadau gan Joel James AS.

Eitem 2.2 – Datganodd Vaughan Gething AS y cyfeirir ato wrth ei enw yn nhestun y ddeiseb

Eitem 2.8 – Datganodd Vaughan Gething AS ei fod yn Weinidog Iechyd am ran o'r rhaglen frechu

Eitem 3.6 - Datganodd Carolyn Thomas AS fod y deisebydd yn aelod o'i staff.

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1482 Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad bord gron ar y mater a bydd yn llunio adroddiad ym mis Mawrth, yn cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru.

2.2

P-06-1468 Gosod rheolau llymach i gyfyngu ar y rhoddion a'r taliadau a gaiff Aelodau o'r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod ymchwiliad o ran cofrestru a datganiad buddiannau yn cael ei gynnal gan y Pwyllgor Safonau ar y mater hwn, felly cytunodd i gadw'r ddeiseb ar agor nes y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau.

2.3

P-06-1469 Rhaid i bolisïau neu brosiectau'r Llywodraeth sy'n costio dros £10 miliwn gael eu cymeradwyo gan etholwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd fod £10 miliwn yn derfyn afrealistig. Mae gan y Senedd eisoes broses wedi'i nodi'n glir ar gyfer craffu ar y gyllideb ac nid yw deisebau blaenorol sy'n galw am fesurau tebyg wedi gwneud unrhyw gynnydd. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

2.4

P-06-1470 Cael gwared ar y Cynllun Cymru Wrth-hiliol, sy'n gynllun HILIOL a hurt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Wrth drafod y ddeiseb, nododd yr Aelodau fod Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol wedi'i gymeradwyo gan y Senedd ar draws pob plaid ac nad oedd rhagor o gamau y gallai'r Pwyllgor eu cymryd. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb.

2.5

P-06-1477 Deddf newydd gan y Senedd i adalw cynghorwyr lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet yn datgan bod y fframwaith moesegol presennol ar gyfer Cynghorwyr yn cael ei farnu yn addas i'r diben drwy adolygiad annibynnol. Nododd yr Aelodau hefyd fod mecanweithiau’n bod i gael gwared ar gynghorwyr a'i bod yn aneglur beth arall y gallai'r Pwyllgor ei wneud. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

2.6

P-06-1483 Rhoi llais i gymdogion pan fydd perchnogion llety gwyliau yn dechrau gwneud cais am drwyddedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y ddeiseb, i gael ei hystyried yn ei flaenraglen waith, yn ogystal ag ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai yn gofyn am safbwyntiau pellach ar y mater. Cytunodd yr aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor tra'n disgwyl am y ddau ymateb.

2.7

P-06-1487 Darparu croesfan i gerddwyr ar yr A4042 yn Llanofer; ei gwneud yn ddiogel i ddefnyddwyr bysiau a gostwng y terfyn cyflymder.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Aelodau etholaethol yn y ddwy Senedd wedi gwneud sylwadau ar y mater. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi gofyn i swyddogion drefnu cyfarfod gyda'r deisebydd. Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor tra'n disgwyl diweddariad ar ganlyniad y cyfarfod.

2.8

P-06-1493 Sicrhau diagnosis a thriniaeth i bobl sy'n dioddef o sgîl-effeithiau negyddol brechlyn COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod modiwl pedwar o ymchwiliad COVID-19 yn dechrau ar y gwaith ar y mater hwn ac y bydd hefyd yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 y Senedd. Cytunodd y Pwyllgor nad oedd yn briodol trafod y ddeiseb yn y Senedd o ystyried ei bod yn cael sylw ar hyn o bryd mewn fforymau eraill. Yng ngoleuni hyn, mynegodd y Pwyllgor ei gydymdeimlad, diolchodd i’r deisebydd a chaeodd y ddeiseb.

2.9

P-06-1494 Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chydnabod ei bod wedi mynd dros y trothwy i'w hystyried ar gyfer dadl. Fodd bynnag, cytunodd yr Aelodau nad oedd llawer o ddiben gofyn am ddadl ar y mater penodol hwn ar unwaith oherwydd y ddadl ar y gyllideb a ddisgwylir ym mis Chwefror.

Cytunodd y Pwyllgor i anfon sylwadau'r deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac anfon copi at Gadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, fel blaenoriaeth i'w hystyried yn ei adroddiad craffu ar y gyllideb.

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a llongyfarch y deisebydd ar ei lwyddiant. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer gwaharddiad tair gwlad (Cymru, Lloegr a'r Alban). Cyn cau'r ddeiseb, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i gadarnhau'r dyddiad y bydd gwaharddiad yn dod i rym.

3.2

P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y ddeiseb hon a 'P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod' a 'P-06-1444 Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd' eu hystyried gyda'i gilydd.

Trafododd y Pwyllgor y deisebau a nododd gyhoeddi’r Cynllun Iechyd Menywod. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i geisio eglurder pellach ar gwestiwn a ofynnwyd gan Jenny Rathbone yn y ddadl ar 10 Rhagfyr 2024 ynghylch gofal trydyddol yn y Cynllun Iechyd Menywod. Bydd y Pwyllgor hefyd yn rhannu'r ymateb gan Triniaeth Deg i Ferched Cymru gyda’r Ysgrifennydd Cabinet.

Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb.

3.3

P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y ddeiseb hon a 'P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod' a 'P-06-1444 Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd' eu hystyried gyda'i gilydd.

Trafododd y Pwyllgor y deisebau a nododd gyhoeddi’r Cynllun Iechyd Menywod. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i geisio eglurder pellach ar gwestiwn a ofynnwyd gan Jenny Rathbone yn y ddadl ar 10 Rhagfyr 2024 ynghylch gofal trydyddol yn y Cynllun Iechyd Menywod. Bydd y Pwyllgor hefyd yn rhannu'r ymateb gan Triniaeth Deg i Ferched Cymru gyda’r Ysgrifennydd Cabinet. Bydd y Pwyllgor hefyd yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ofyn sut y mae’r Cynllun yn mynd i’r afael â chasglu data penodol ar endometriosis Anfonir copi o’r ohebiaeth at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i lywio ei waith craffu ar y Cynllun Iechyd.

3.4

P-06-1444 Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd nad oedd y deisebydd yn teimlo bod ei chwestiynau wedi cael eu hateb yn ddigonol. Cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ofyn a fyddai modd cynnal rhagor o glinigau yn Ysbyty Gwynedd (yn golygu bod un ymgynghorydd yn gorfod teithio i Fangor, yn hytrach na bod angen i ddwsinau o ferched wneud trefniadau i deithio i ysbytai yn y dwyrain) i gael gwasanaethau arbenigol. Bydd y Pwyllgor hefyd yn gofyn pa wasanaethau menopos y gellir eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y Pwyllgor hefyd yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn pa gynlluniau sydd ganddo i gyhoeddi fersiwn hawdd ei darllen o'r Cynllun Iechyd Menywod.

3.5

P-06-1258 Gwneud unigolion yng Nghymru sydd ag anableddau cudd yn gymwys ar gyfer y Bathodyn Glas

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Llywodraeth wedi comisiynu ymchwil ar y mater hwn ac i gadw'r ddeiseb ar agor nes y cyhoeddir yr ymchwil (yn ddiweddarach eleni).

3.6

P-06-1387 Darparu cymorth dyngarol i Gaza

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod ymateb y Prif Weinidog yn ddefnyddiol ac yn adeiladol. Ers yr ystyriaeth ddiwethaf, cafwyd cytundeb cadoediad ac mae'n anodd gweld beth arall y gallai'r Pwyllgor ei wneud. Yng ngoleuni hyn, diolchodd y Pwyllgor i’r deisebydd; a chau’r ddeiseb,

3.7

P-06-1425 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru wyrdroi ei phenderfyniad i atal bysiau T2 rhag galw yng Ngarndolbenmaen

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd gryfder y teimlad yn lleol. Mae disgwyl i gyfarfod ar-lein ar y mater gael ei gynnal ym mis Chwefror a chytunodd yr Aelodau i aros am y canlyniad cyn cau'r ddeiseb.

3.8

P-06-1439 Gwella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus hanfodol hwyr y nos yn Ne a De-orllewin Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd gydymdeimlad â'r deisebydd. Gan fod y materion trafnidiaeth yn cael eu cydnabod gan Ysgrifennydd y Cabinet ac wedi cael eu dwyn i sylw'r awdurdod lleol, ymddengys nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd. Diolchodd y Pwyllgor i'r deisebydd a chau’r ddeiseb.

3.9

P-06-1454 Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth iechyd meddwl brys i dadau newydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd ar yr effaith y mae wedi'i chael o ran y mater hwn. Yn ei hymateb, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant fod gwaith ar y gweill ar lwybr i gefnogi tadau a phartneriaid unigolion sydd o dan ofal y tîm iechyd meddwl amenedigol arbenigol. Cytunodd yr Aelodau nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud ar y mater hwn ac i gau'r ddeiseb.

3.10

P-06-1452 Dydd Llun heb gig ym mhob ysgol yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd am ddefnyddio'r system ddeisebau i godi mater pwysig. Roedd ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet yn datgan fod ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion yn cael ei lunio a chaiff rrheoliadau diwygiedig eu gosod gerbron y Senedd ym mis Ionawr 2026. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

3.11

P-06-1474 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y ddeiseb hon a ‘P-06-1447 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau’r ganolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas’ eu hystyried ar y cyd.

Cytunodd y Cadeirydd i godi'r deisebau yn y ddadl sydd ar y gweill ar 22 Ionawr 2025 ar Gyfoeth Naturiol Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i dynnu sylw at bryderon y deisebydd cyn y gwaith craffu ym mis Mawrth ac at Gyfoeth Naturiol Cymru.

3.12

P-05-1447 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau’r ganolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y ddeiseb hon a ‘P-06-1474 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas’ eu hystyried ar y cyd.

Cytunodd y Cadeirydd i godi'r deisebau yn y ddadl sydd ar y gweill ar 22 Ionawr 2025 ar Gyfoeth Naturiol Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i dynnu sylw at bryderon y deisebydd cyn y gwaith craffu ym mis Mawrth ac at Gyfoeth Naturiol Cymru.

3.13

P-06-1464 Caniatáu i deuluoedd Cymru sydd wedi colli baban cyn 24 wythnos gael tystysgrif colli baban.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gadw'r ddeiseb ar agor ac ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn gofyn am ddyddiad y bydd trafodaethau rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU yn dod i ben, gan ddisgwyl cau'r ddeiseb y tro nesaf.

4.

Papur i’w nodi

4.1

P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Dogfennau ategol:

4.2

P-06-1414 Paratoi cais i Gymru gystadlu yng Nghystadleuaeth yr Eurovision

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.