P-06-1425 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru wyrdroi ei phenderfyniad i atal bysiau T2 rhag galw yng Ngarndolbenmaen

P-06-1425 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru wyrdroi ei phenderfyniad i atal bysiau T2 rhag galw yng Ngarndolbenmaen

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Stephen Churchman, ar ôl casglu 282 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Ar 5 Tachwedd 2023, cafodd amserlen fysiau newydd ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru a chafodd y gwasanaeth T2 drwy Garndolbenmaen ei dynnu’n ôl, sy’n golygu nad yw’r bysiau T2 yn galw yn y pentref mwyach.

 

Bellach, mi fydd bron yn amhosibl i bobl Garndolbenmaen deithio i'r gwaith, i'r ysgol neu i apwyntiadau ysbyty.

 

Nid oes unrhyw ymgynghori o gwbl wedi bod â phobl Garndolbenmaen ar y newidiadau hyn i’r gwasanaeth bws T2.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Gellid datrys y rhan fwyaf o'r problemau hyn heb fawr ddim cost ychwanegol petai'r gwasanaeth T2 yn parhau i alw yng Ngarndolbenmaen. Dim ond dargyfeiriad o 8 munud ychwanegol fyddai ei angen (llai na dwy filltir ychwanegol) pe bai’r holl fysiau T2 yn parhau i alw yng Ngarndolbenmaen.

 

Byddai'r mân wariant ychwanegol hwn yn cael ei liniaru trwy osgoi gwariant cyhoeddus ar dalu am deithiau tacsi i fyfyrwyr ysgol a'r bobl hynny ar incwm isel sy'n teithio i Ysbyty Gwynedd ar gyfer apwyntiadau. Byddai hefyd yn adfer gwasanaeth bws defnyddiol rhwng Garndolbenmaen a Chricieth sydd bellach wedi’i gynnwys yn llwybr bws newydd y T2.

 

Mae’r cynnig ymarferol hwn i ddatrys y broblem eisoes wedi’i awgrymu gan Steve Churchman, y cynghorydd lleol, a byddai’n ddefnyddiol pe bai unigolion eraill hefyd yn cefnogi’r ymgyrch hon i gadw’r gwasanaeth T2 ar gyfer pobl Garndolbenmaen.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 10/04/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/09/2024.

 

 

A close-up of a blue and orange handle

Description automatically generated

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:

>>>> 

>>>Dwyfor Meirionnydd 

>>>Canolbarth a Gorllewin Cymru 

<<< 

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2024