P-06-1483 Rhoi llais i gymdogion pan fydd perchnogion llety gwyliau yn dechrau gwneud cais am drwyddedau
P-06-1483 Rhoi llais i gymdogion pan fydd perchnogion llety gwyliau yn dechrau gwneud cais am drwyddedau
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Jacqueline Cullimore, ar ôl casglu 1,027 lofnodion. Yn ogystal â'r
ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac
wedi casglu 1,033 o lofnodion ar bapur.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae miloedd o
letyau gwyliau yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod llawer ohonom yn cael ein bod
o’r sydyn yn byw yn ymyl busnesau yn lle cartrefi, a ninnau heb unrhyw ddweud
yn y mater.
Mae'r cynllun
trwyddedu llety gwyliau yn yr Alban yn caniatáu i gymdogion ymateb i geisiadau
am drwydded: yna gall ymatebion y cymdogion gael eu hystyried fel sail bosibl
dros wrthod cais.
Rydym am i
Lywodraeth Cymru gynnwys ymgynghoriad â chymdogion yng nghynllun trwyddedu
llety gwyliau Cymru hefyd.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Yn ogystal â
galluogi darparwyr llety gwyliau i ddangos eu bod yn cydymffurfio â gofynion
ansawdd a diogelwch, credwn y dylai'r cynllun trwyddedu yng Nghymru hefyd fynd
i'r afael â'r materion mae cymdogion yn eu hwynebu.
Disgwylir i
ddeddfwriaeth ar gyfer cynllun trwyddedu llety gwyliau yng Nghymru gael ei
gyflwyno yn y Senedd cyn diwedd 2024, ac rydym am i Lywodraeth Cymru fabwysiadu
cynllun trwyddedu Llywodraeth yr Alban yn y modd canlynol:
1. caiff
cymdogion eu hysbysu ynghylch ceisiadau am drwyddedu newydd a cheisiadau i
adnewyddu trwyddedau;
2. caiff
cymdogion godi gwrthwynebiadau/pryderon mewn ymateb i gais am drwydded;
3. caiff
gwrthwynebiadau cymdogion eu hystyried yn sail bosibl dros wrthod cais am
drwydded.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 28/04/2025 penderfynodd
y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 20/01/2025.

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Arfon
- Gogledd Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2024