P-06-1477 Deddf newydd gan y Senedd i adalw cynghorwyr lleol

P-06-1477 Deddf newydd gan y Senedd i adalw cynghorwyr lleol

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Russell Spencer-Downer, ar ôl casglu 686 lofnodion

 

Geiriad y ddeiseb:

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith sy’n caniatáu i etholwyr gael gwared ar gynghorwyr sy'n gwasanaethu mewn awdurdod lleol, ac eithrio yn ystod etholiad, sy'n digwydd bob pum mlynedd. Mae angen Deddf newydd arnom, sy’n debyg i’r Ddeddf ar adalw Aelodau Seneddol, ond sy’n ymwneud y tro hwn ag adalw cynghorwyr.

Credaf ei bod ond yn deg ein bod yn ymdrin â chynghorwyr lleol yn yr un modd ag yr ydym yn ymdrin ag Aelodau Seneddol. Os nad yw cynghorwyr yn cyflawni eu rolau, dylid cael gwared arnynt a rhoi pobl eraill yn eu lle, a fydd yn gwireddu dymuniadau pleidleiswyr.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 20/01/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 20/01/2025. 

 

 

 

A sign with a lion and a red banner

Description automatically generated with medium confidence

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2024