P-06-1444 Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd
P-06-1444 Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Delyth, ar ôl casglu 1,347 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Ni all pawb
fforddio teithio i Wrecsam.
Ni all pawb
fforddio talu'n breifat i fynd i glinig menopos.
Nid oes gan bawb yr
amser i fynd i Wrecsam. Efallai eu bod yn gofalu am blant ac aelodau o'r teulu
ac ati.
Dylai pawb gael y
dewis.
Dylai’r
gwasanaeth fod ar garreg ein drws yn Ysbyty Gwynedd a dylid cynnig mwy o
wasanaethau arbenigol yn lleol i bobl Gogledd Cymru gan gynnwys rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i feddygon teulu, gynaecolegwyr, ymarferwyr a chyflogwyr
ynghylch y menopos a manteision HRT.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae’r bwrdd
iechyd yn disgwyl i ferched deithio i’r clinig menopos GIG agosaf yn Wrecsam,
gan eu bod yn torri’n ôl ar yr ychydig gymorth sydd gennym yn Ysbyty Gwynedd.
Nid yw hyn yn dderbyniol, yn enwedig yn yr argyfwng ariannol presennol.
Mae angen
adnoddau ar garreg ein drws yn lleol i ni; nid yw’r bwrdd iechyd yn bodloni
gofynion menywod sy’n dioddef y trafferthion, y gofid, y boen, a’r anghysur
ynghyd â’r holl symptomau eraill cysylltiedig â’r menopos a’r effaith ar eu
teulu.
Rhaid i
Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy mewn adnoddau a gwasanaethau menopos yng
Nghymru.
Mae merched yn
cael trafferth cadw eu swyddi ac ymgymryd weithiau â’u cyfrifoldebau gofalu.
Mae merched yn gadael eu gwaith gan na allant ymdopi â rhai o'r symptomau.

Statws
Yn ei gyfarfod ar 10/11/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/09/2024.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:
>>>>
>>>Ynys
Môn
>>>Gogledd
Cymru
<<<
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2024