P-06-1468 Gosod rheolau llymach i gyfyngu ar y rhoddion a’r taliadau a gaiff Aelodau o’r Senedd

P-06-1468 Gosod rheolau llymach i gyfyngu ar y rhoddion a’r taliadau a gaiff Aelodau o’r Senedd

Petitions3

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lyn Eynon, ar ôl casglu 343 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae’r rhoddion sylweddol a gafodd Aelod blaenllaw o’r Senedd yn ddiweddar wedi bod yn destun cryn bryder ymhlith y cyhoedd. Rhaid dysgu gwersi yn sgil hyn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rhaid i Gymru gynnal a gwella ei henw da am dryloywder ac uniondeb. Mae dyletswydd ar bob Aelod o’r Senedd i sicrhau na fydd unrhyw wrthdaro, neu unrhyw ganfyddiad o wrthdaro, rhwng ei ddyletswyddau cyhoeddus a’i fuddiannau preifat.

 

Rhaid sicrhau na all neb dalu, neu ymddangos fel petai’n talu, am ddylanwad gwleidyddol. Dylid asesu’n ofalus o ble y daw’r holl fuddiannau y mae Aelodau’n eu cael.

 

A room with a large round ceiling and a large room with computers

Description automatically generated with medium confidence

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:

>>>> 

>>>De Caerdydd a Phenarth

>>>Canol De Cymru

<<< 

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/08/2024