P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru
P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Beth Hales, ar ôl casglu cyfanswm o 5,895
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae endometriosis yn difetha bywydau menywod a’u teuluoedd sy'n byw yng
Nghymru gydag 1 o bob 10 yn dioddef o'r cyflwr.
Nid yw achos endometriosis yn hysbys, nid oes gwellhad, yr amser diagnosis
ar gyfartaledd yw wyth mlynedd a hanner ac mae rhestr aros chwe blynedd am
driniaeth ar y GIG.
Mae'r diffyg dealltwriaeth amlwg o'r cyflwr yn cael effaith niweidiol ar
gymdeithas ar bob lefel. Felly mae angen blaenoriaethu cyllid i sicrhau
cydraddoldeb gofal iechyd yng Nghymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Amlygodd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018 pa mor fawr
yw’r broblem a wynebir gennym gydag adnoddau’n cael eu gwastraffu a’r niwed
sy'n cael ei achosi ar hyn o bryd i unigolion sy'n dioddef o endometriosis. Er
i’r canfyddiadau ddangos effeithiau ar ofal iechyd, addysg, lefelau economaidd,
ariannol a chymdeithasol o fewn cymdeithas, nid yw'r mwyafrif o’r argymhellion
wedi'u mabwysiadu ac mewn sawl ardal mae pethau wedi gwaethygu i ddioddefwyr
endometriosis.
(Isod mae'r linc i'r adroddiad hwn gan y Llywodraeth - Endometriosis care
in Wales: Provision, care pathway, workforce planning and quality and outcome
measures.
A fyddech cystal â llofnodi’r ddeiseb hon er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth
o endometriosis ac annog Llywodraeth Cymru i ddyrannu'r lefel briodol o gyllid
ar gyfer y cyflwr hwn fel y gallwn gymryd camau tuag at sicrhau cydraddoldeb
gofal iechyd yng Nghymru.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2022