P-06-1470 Cael gwared ar y Cynllun Cymru Wrth-hiliol, sy’n gynllun HILIOL a hurt

P-06-1470 Cael gwared ar y Cynllun Cymru Wrth-hiliol, sy’n gynllun HILIOL a hurt

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jasmin McNally, ar ôl casglu 431 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Oeddech chi’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft yn 2020/21? Ailenwyd yn Gynllun Cymru Gwrth-hiliol? Na? DIM OND 500 o bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad hwn. Bwriad y “Cynllun” hwn yw newid polisïau’r Llywodraeth er mwyn bodloni cwotâu ‘ecwiti’. Nid cydraddoldeb. Credaf fod hyn yn wahaniaethol ac yn hiliol ac yn seiliedig ar DDAMCANIAETH Hil Beirniadol (neu ‘Critical Race Theory’). Yn ogystal ag ar brofiadau personol anecdotaidd. Nid ffeithiau. Mae’n rhybuddio am ganlyniadau dull gweithredu lliwddal. Mae angen cael gwared ar hyn ar unwaith.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Yn ôl Llywodraeth Cymru: “Drwy ymgysylltu â chymunedau a dadansoddi’r ymatebion i’n hymgynghoriad, daeth yn amlwg bod angen dull gweithredu gwrth-hiliol”.

 

Yn fy marn i, mae hyn yn hyrwyddo gwahaniaethu a hiliaeth, yn gwastraffu ein harian, a bydd yn cael effaith ar Gymru gyfan. Wrth gyflwyno’r Cynllun Cymru Gwrth-hiliol, rhybuddir, “yn aml, tybir mai ‘darparu’r un peth i bawb’ fydd y gwasanaeth mwyaf priodol. Ond mewn gwirionedd, drwy ystyried gwahaniaethau pobl … y ceir gwasanaeth mwy sensitif, hygyrch ac effeithiol. Yn aml mae’r dull gweithredu lliwddall yn golygu bod pobl ethnig leiafrifol yn ei chael hi’n anodd cael swyddi, camu ymlaen, neu gael gwasanaethau sy’n addas i’w hanghenion.

 

I ni, mae gwrth-hiliaeth yn ymwneud â mynd ati’n rhagweithiol i nodi a dileu polisïau, systemau, strwythurau a phrosesau sy’n arwain at ganlyniadau gwahanol iawn i grwpiau ethnig lleiafrifol.”

 

Mae hyn yn warthus ac mae angen ei ddileu.

 

https://www.llyw.cymru/cyflwyniad-ir-cynllun-cymru-wrth-hiliol-html

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 20/01/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 20/01/2025. 

 

A sign on a building

Description automatically generated

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:

>>>> 

>>>Gorllewin Caerfyrddin

>>>Canolbarth a Gorllewin Cymru

<<< 

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/08/2024