P-06-1482 Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol)
P-06-1482 Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol)
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Zena Blackwell, ar ôl casglu 3,369 lofnodion.
Geiriad y
Ddeiseb:
Wedi ein
hysbrydoli gan symudiadau Smartphone Free Childhood a Delay Smartphones, yn
ogystal ag ymchwil neilltuol ddiweddar ar effeithiau negyddol dwys ffonau
clyfar ar blant, rydym yn galw ar Senedd Cymru i’w gwahardd ym mhob ysgol yng
Nghymru, gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol. Mae defnyddio
ffonau clyfar yn achosi pryderon sylweddol o ran llesiant a diogelu. Rydym yn
pryderu’n fawr am ddatblygiad cymdeithasol ac iechyd meddwl ein plant ac yn
credu bod gan bob disgybl yr hawl i fod mewn ysgol heb ffonau clyfar.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae iechyd meddwl
plant ar ei isaf erioed, gyda ffonau clyfar a chyfryngau cymdeithasol ymysg y
prif ffactorau cyfrannol.
Mae ymchwil yn
amlygu effeithiau andwyol ffonau clyfar ar blant, gydag adroddiad gan Bwyllgor
Dethol Senedd y DU yn nodi bod y risgiau sy’n gysylltiedig ag amser o flaen
sgrin yn drech na’r manteision. Yn ddiweddar, fe alwodd y BMJ am ymateb iechyd
cyhoeddus rhagofalus. Mae ffonau clyfar yn amharu ar ddatblygiad yr ymennydd,
yn gostwng hunan-barch, yn achosi gorbryder, ac yn dod â phlant i gysylltiad â
chynnwys niweidiol. Mae adroddiadau'n cynnwys cyfeiriadau at bobl ifanc yn eu
harddegau yn gweld pobl yn cael eu lladd go iawn ar gyfryngau cymdeithasol ac
achosion o hunanladdiad oherwydd 'blacmel rhywiol.' Mae 83% o rieni yn credu
bod ffonau clyfar yn niweidiol, gyda 58% yn cefnogi gwaharddiad i blant dan 16
oed (arolwg Parentkind).
Mae gwledydd
megis Ffrainc, y Ffindir, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Sweden, a Tsieina, ynghyd â
llawer o ysgolion yn y DU ac UDA, wedi cyflwyno gwaharddiadau ar ffonau clyfar,
gan arwain at well canolbwyntio a llesiant ymhlith myfyrwyr. Mae UNESCO a
Llywodraeth y DU hefyd wedi galw am waharddiad ar ffonau clyfar mewn ysgolion.
Cynhaliodd y
Pwyllgor ddigwyddiad bord gron ar y mater a chynhaliodd waith ymgysylltu mewn
ysgolion. Cyhoeddwyd adroddiad ar 12 Mawrth 2025 gydag
argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 14/07/2025 penderfynodd
y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 06/01/2025.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:
>>>>
>>>Canol
Caerdydd
>>>Dwyrain
De Cymru
<<<
[PetitionFooter]
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/10/2024
Dogfennau
- P-06-1482 Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol) - Adroddiad llawn
PDF 775 KB - P-06-1482 Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol) - Ymateb Llywodraeth Cymru
PDF 106 KB - P-06-1482 Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol) - Llythyr eglurhaol ymateb Llywodraeth Cymru
PDF 143 KB - Canfyddiadau - Gwahardd Ffonau Clyfar
PDF 310 KB - Papur briffio Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru / Cymdeithas, Ionawr 2025
PDF 545 KB Gweld fel HTML (5) 44 KB - Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yng Nghymru, Ionawr 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 88 KB - Parents Voices Wales, Ionawr 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 130 KB - NSPCC Cymru, Ionawr 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB - Barnardo’s Cymru, Ionawr 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 162 KB - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Ymateb i’r Ddeiseb, Ionawr 2025
PDF 124 KB - Ymateb y deisebydd, Ionawr 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 134 KB - Papur briffio Ymchwil y Senedd, Ionawr 2025
PDF 218 KB Gweld fel HTML (12) 84 KB - Ystadegau o arolwg o ysgolion Sir Benfro, Ionawr 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 128 KB - Platfform, Chwefror 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 112 KB - Diabetes UK, Chwefror 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 202 KB