P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes
P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes
Petitions4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan STAND NW CIC, ar ôl casglu 1,618 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Nid yw pob anabledd yr un fath, mae rhai yn para gydol oes, sy'n golygu nad
ydynt yn newid dros amser.
Yn anffodus, mae’r canllawiau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion
sydd â diagnosis gydol oes, sy'n cynnwys anableddau dysgu neu anghenion dwys a
chymhleth, ailymgeisio am fathodyn glas bob tair blynedd. Gall y broses hon fod
yn rhwystredig iawn, mae’n cymryd llawer o amser i unigolion a'u gofalwyr ei
chwblhau ac mae’n canolbwyntio ar agweddau negyddol ar allu unigolyn.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd fel nam corfforol neu
feddyliol sy'n cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar allu unigolyn i
ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae’n nodi y caniateir i bobl ag
anableddau gael eu trin yn fwy ffafriol ar sail y dystiolaeth a gyflwynir, i
sicrhau cyfle cyfartal.
Credwn y dylid diweddaru'r broses i roi mwy o gymorth i’r rhai ag
anableddau drwy wneud bywyd yn haws i'r rhai sydd â chyflyrau gydol oes.
Rydym, gan hynny, yn cynnig newid, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y
broses bresennol o wneud cais am fathodyn glas, i roi'r hyn sy'n iawn i bobl
anabl a’u cynorthwyo.
Byddai’r newid hwn yn caniatáu i bobl gael bathodyn glas sy’n para gydol
oes os oes ganddynt gyflwr meddygol gydol oes nad oes disgwyl iddo wella, ac os
yw eu nodiadau iechyd cysylltiedig yn cadarnhau hynny.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 24/11/2025
penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/12/2023.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dyffryn Clwyd
- Gogledd Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2023
Dogfennau