P-06-1454 Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth iechyd meddwl brys i dadau newydd
P-06-1454 Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth iechyd meddwl brys i dadau newydd
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Mark William, ar ôl casglu 295 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
I dadau â phroblemau
iechyd meddwl, ystyrir bod y risg o hunanladdiad hyd at 47 y cant yn uwch yn
ystod y cyfnod amenedigol nag ar unrhyw adeg arall yn eu bywydau (Quevedo et
al., 2010).
Mae ymchwil
newydd hefyd yn dangos mai 22 y cant yw’r risg o gael gorbryder ac iselder i
dad newydd yn ystod y cyfnod amenedigol. Mae trawma geni yn effeithio ar o
leiaf 30,000 o fenywod yn y DU; mae tadau’n dyst i’r trawma hwn ac nid ydynt yn
cael cymorth ar gyfer PTSD. Mae tadau hefyd yn colli babanod, ac mae angen
iddynt gefnogi eu babanod ar wardiau newyddenedigol.
Rydym am i
Lywodraeth Cymru sefydlu gwasanaeth i gefnogi tadau mewn timau iechyd meddwl
amenedigol ledled Cymru. Rydym hefyd am i dadau gael cymorth ariannol am hyd at
chwe wythnos.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Rwy’n rhan o
adroddiad sydd ar y gweill, gyda Theo Clarke AS, ar dadau a thrawma geni.
Edrychwch ar ‘Fathers Reaching Out - Why Dads Matter’ a gyhoeddwyd yn 2020
gyda’r holl argymhellion i gefnogi tadau yn well. Drwy gefnogi iechyd meddwl
pob rhiant newydd, gellir sicrhau canlyniadau llawer gwell i’r teulu cyfan, gan
gynnwys y babi. Os nad ydym yn cynnwys tadau, mae posibilrwydd y bydd effaith
ar famau, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Cam-drin Sylweddau, Torri
Perthynas, Argyfwng mewn gwasanaethau eraill a pheidio â mynd i wraidd yr
achos. Un o achosion mwyaf marwolaeth dynion yw hunanladdiad ac oherwydd y risg
uchel ymhlith tadau newydd, mae hyn yn fater brys. Iechyd Meddwl Tadau yw un o
brif achosion hunanladdiad, ond nid ydym yn sgrinio nac yn cefnogi tadau yn
2024.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 20/01/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/09/2024.

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd:
>>>>
>>>Ogwr
>>>Gorllewin
De Cymru
<<<
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/08/2024