P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod

P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod

O dan ystyriaeth

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Larissa Richardson, ar ôl casglu cyfanswm o 242 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd sy'n ymwneud â materion iechyd menywod, yn ogystal ag ymchwil, addysg ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.

 

Mae’r materion hyn yn cynnwys:

materion amenedigol, anafiadau yn ystod genedigaeth, cwymp y groth, ffibroidau, endometriosau, materion cysylltiedig â menopos, materion cysylltiedig â mislif, a'r effaith ar iechyd meddwl sy'n cyd-fynd â'r materion hyn.

 

Meysydd a allai elwa (enghreifftiau, ymhlith eraill): bydwreigiaeth, meddygon teulu, gynaecoleg, ffisiotherapi iechyd menywod, gwasanaethau iechyd meddwl (ee cwnsela).

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae nifer sylweddol o fenywod yn dioddef o faterion iechyd menywod. Wedi dweud hynny, mae cyfran fawr o'r menywod hyn yn dioddef mewn distawrwydd.

 

Oherwydd y diffyg dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a/neu adnoddau, mae yna lawer o faterion iechyd menywod nad ydynt yn cael eu diagnosio neu’n cael eu camddiagnosio, sy’n golygu’n aml bod y symptomau’n gwaethygu.

 

Nid yw’r effaith niweidiol ar iechyd meddwl yn cael ei datgan yn llawn ychwaith, ac mae angen mynd i'r afael â hyn.

 

Mae yna fater cyfochrog, sef bod cymdeithas a diwylliannau modern wedi normaleiddio llawer o faterion iechyd menywod, gan wneud i fenywod deimlo bod eu dioddefaint yn rhan arferol o fod yn fenyw. Mae angen mynd i’r afael â hyn ac mewn gwirionedd ni ddylid ystyried bod y materion hyn yn rhai “normal”.

 

Mae angen cyllid i wella ac ategu gwasanaethau, addysg ac ymwybyddiaeth iechyd menywod er mwyn bod menywod yn cael eu gweld, eu clywed, eu deall a'u trin yn fwy amserol

 

Mae angen cyllid hefyd er mwyn gallu mynd i'r afael â'r materion hyn a'u trafod yn ehangach yn llygad y cyhoedd.

 

four women looking down

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gogledd Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/11/2021