Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 25/04/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Sesiwn dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Sally Jenkins,
Cyngor Dinas Casnewydd Annabel Lloyd,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Julie Davies,
Dinas a Sir Abertawe Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sally Jenkins,
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd, Annabel Lloyd, Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Plant Cyngor Rhondda Cynon Taf a Julie Davies, Pennaeth Gwasanaeth
Plant a Theuluoedd Cyngor Abertawe. |
|
Sesiwn dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Deborah Jones,
Voices from Care Cymru Francesca
Pritchard, Voices from Care Cymru Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Deborah Jones, Prif
Weithredwr Voices from Care Cymru a Francesca Pritchard, Rheolwr Llesiant ar
gyfer Voices from Care Cymru. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr ar gyfer pobl â syndrom Tourette yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at Bwyllgor Busnes y Senedd i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn. |
|
P-06-1258 Gwneud unigolion yng Nghymru ag anableddau cudd yn gymwys ar gyfer y Bathodyn Glas Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad
ar y sefyllfa nes cyhoeddir casgliadau’r ymchwil y mae Llywodraeth wedi’i
gomisiynu i’r mater hwn. |
|
P-06-1261 Dylid buddsoddi i sicrhau bod gan yr holl ysgolion seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd effeithiol ac o safon. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog eto yn gofyn am ddata manylach i weld a
oes ysgolion neu awdurdodau lleol penodol lle mae'r cyflymder cyfartalog yn
arafach nag y dylai fod. |
|
P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad
ar y sefyllfa tra bo Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o’r mater hwn. |
|
P-06-1265 Dylid newid enw ward etholiadol newydd Saltney, Sir y Fflint i "Saltney a Saltney Ferry." Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bydd yr
etholiadau lleol sydd ar ddod yn debygol o godi ymwybyddiaeth o'r enw ac, o
unrhyw gynigion i'w newid o bosibl. Cytunodd y Pwyllgor na ellid cymryd unrhyw
gamau eraill a chytunodd i gau’r ddeiseb. |
|
P-06-1266 Profion COVID i blant sy'n addas i’r oedran Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd bod Llywodraeth
Cymru yn cymryd camau i sicrhau y bydd profion llai annymunol ar gael yn
ddiweddarach yn y flwyddyn. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebydd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i roi gwybod i’r deisebydd fod
Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno profion llai annymunol. |
|
P-06-1267 Creu system adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd sy’n perfformio’n wael Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i anfon y
ddeiseb at y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd er mwyn i aelodau’r
Pwyllgor hwnnw ei hystyried fel rhan o’u trafodaethau presennol ynghylch ethol
Aelodau o’r Senedd yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1269 Peidiwch â gadael i’r cynllun redeg allan ar gyfer pobl sy’n marw yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y Gweinidog eto i ofyn am ymateb i’r cynigion a gyflwynwyd gan y deisebwyr
yn eu hymateb i’r Pwyllgor. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y Gweinidog eto i ofyn am esboniad manylach o’r cyllid sydd ar gael i
gymunedau ac a fydd unrhyw ganllawiau neu gymorth ar gael i’r rhai sydd am
redeg a chynnal a chadw adeiladau cymunedol. |
|
P-06-1190 Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Adran yr
Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wrthi’n ymgynghori ynghylch y mater.
Cytunodd i gadw llygad ar y sefyllfa ac ailystyried y ddeiseb pan fydd
Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r casgliadau. |
|
P-06-1210 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod pedair deiseb
arall yn ymwneud â hyn wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi
egluro’r broses eithrio sydd ar gael i awdurdodau lleol ei dilyn os ystyrir bod
20mya yn amhriodol ar gyfer ffordd benodol. O ystyried bod y broses eithrio’n
cynnig fforodd i’r deisebwyr dynnu sylw eu hawdurdod lleol ar eu pryderon, ac y
gall yr awdurdodau hyn adolygu’r penderfyniad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw llygad
ar y sefyllfa nes bydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi
gorffen trafod y mater. |
|
P-06-1226 Dileu'r hyn sy’n rhwystro mynediad i waith cymdeithasol ac annog parch cydradd rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y ddeiseb
wedi llwyddo i sicrhau y bydd rhagor o gyllid ar gael ar gyfer carfannau o
fyfyrwyr gwaith cymdeithasol ôl-raddedig yn y dyfodol, ac y bydd hyn yn
gwella’r sefyllfa. Mae opsiynau eraill yn cael eu datblygu a disgwylir i
gynllun gweithlu gwaith cymdeithasol gael ei gyhoeddi. Cytunodd y Pwyllgor i
longyfarch y deisebwyr ar eu llwyddiant a chau’r ddeiseb. |
|
P-06-1227 Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y cynlluniau
i ddatblygu gwasanaeth yn mynd rhagddynt, ac y bydd y Gweinidog yn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
yn y dyfodol. Gan hynny, cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gamau eraill y
gallai eu cymryd yn awr a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am
dynnu sylw at fater pwysig iawn drwy gyfrwng y ddeiseb. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Sesiwn dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd y
byddai’n gwahodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor er
mwyn cael rhagor o dystiolaeth. |