P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru
P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Helen Reeves Graham, ar ôl casglu cyfanswm o
10,393 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Syndrom Tourette yn effeithio ar 1 o bob 100 o blant. Nid yw'n gyflwr
prin. Yng Nghymru mae 1 arbenigwr nad yw'n gweld plant.
Mae Syndrom Tourette yn anhwylder niwrolegol sy'n effeithio ar y system
nerfol ac yn achosi ticiau. Mae ticiau yn symudiadau a synau anwirfoddol, sydyn
ac ailadroddus. Gall Syndrom Tourette fod yn boenus ac yn wanychol.
Nid yw llawer o bobl yn gallu cael diagnosis oherwydd diffyg llwybr
clinigol neu maent yn cael eu rhyddhau ar yr un diwrnod heb unrhyw ofal na
chymorth meddygol parhaus. Nid rhegi yn unig yw Syndrom Tourette.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Gall peidio â chael gofal a chymorth meddygol arwain at broblemau iechyd
meddwl hirdymor. Gall pobl â Syndrom Tourette gael anawsterau gyda gorbryder,
cwsg, dicter ac ynysu cymdeithasol.
Mae ANGEN i ni gael llwybr priodol, clir a chlinigol, a mynediad at
ddarpariaeth arbenigol a gofal meddygol i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/10/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl a gynhaliwyd yn gynharach
eleni a'r cyhoeddiad diweddar gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
i ddatblygu rhaglen wella genedlaethol newydd ar gyfer cyflyrau
niwroddatblygiadol.
O ystyried y cyhoeddiad hwn, llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd a phawb
sydd wedi ymgyrchu dros wasanaethau priodol i’r rheini â syndrom Tourette yng
Nghymru a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/04/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Preseli Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/02/2022