P-06-1227 Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru
P-06-1227 Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nia Catrin Foulkes, ar ôl casglu cyfanswm o
7,706 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae angen uned mamau a babanod yng Ngogledd Cymru fel nad oes yn rhaid i
deuluoedd deithio i Loegr, ac mae angen i'r gwasanaeth hwn fod ar gael yn
Gymraeg. Mae hwn yn wasanaeth iechyd meddwl hanfodol sy’n angenrheidiol ar
gyfer Gogledd Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Ym mis Mai 2019, ar ôl genedigaeth fy mab, cefais fy nerbyn i’r uned mamau
a babanod ym Manceinion. Roedd yn anodd iawn i mi orfod mynd i Loegr ymhell
oddi wrth fy nheulu a'm ffrindiau yng Ngogledd Cymru. Roeddwn i'n ei chael hi'n
arbennig o anodd, am fy mod i’n Gymraes iaith gyntaf a oedd mewn ysbyty yn
Lloegr. Mae gwir angen y gwasanaeth iechyd meddwl hwn yng Ngogledd Cymru,
oherwydd credaf y byddai fy adferiad wedi bod yn gyflymach pe bawn i’n nes
adref.
Mae cael babi yn brofiad sy’n newid bywyd rhywun, ac mae rhai mamau'n ei
chael hi'n anoddach nag eraill i ddygymod, ac mae'n gyffredin iawn i fenywod
gael anawsterau gyda'u hiechyd meddwl ar yr adeg hon. Gan gofio hyn, gallai
mynediad i uned mamau a’u babanod ddod i ran unrhyw un, ac mae'n wasanaeth
hanfodol y mae mawr ei angen ar lawer o deuluoedd. Felly byddai cael y
gwasanaeth hwn yn agos atom wedi bod yn werthfawr tu hwnt i mi a'm teulu.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/04/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y cynlluniau
i ddatblygu gwasanaeth yn mynd rhagddynt, ac y bydd y Gweinidog yn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
yn y dyfodol. Gan hynny, cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gamau eraill y
gallai eu cymryd yn awr a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am
dynnu sylw at fater pwysig iawn drwy gyfrwng y ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
24/01/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Clwyd
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2021