P-06-1210 Ataliwch Lywodraeth Cymru rhag cyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20 milltir yr awr

P-06-1210 Ataliwch Lywodraeth Cymru rhag cyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20 milltir yr awr

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Stephen R Matthews, ar ôl casglu cyfanswm o 161 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Awdurdodau lleol a ddylai bennu terfynau cyflymder, a dim ond lle bo’n angenrheidiol y dylent fod yn 20mya.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/04/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod pedair deiseb arall yn ymwneud â hyn wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor.  Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi egluro’r broses eithrio sydd ar gael i awdurdodau lleol ei dilyn os ystyrir bod 20mya yn amhriodol ar gyfer ffordd benodol. O ystyried bod y broses eithrio’n cynnig fforodd i’r deisebwyr dynnu sylw eu hawdurdod lleol ar eu pryderon, ac y gall yr awdurdodau hyn adolygu’r penderfyniad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/11/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/10/2021