P-06-1265 Dylid newid enw ward etholiadol newydd Saltney, Sir y Fflint i "Saltney a Saltney Fferi."
P-06-1265 Dylid newid enw ward etholiadol newydd Saltney, Sir y Fflint i "Saltney a Saltney Fferi."
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Arthur Barrie Gregory, ar ôl casglu 117 o
lofnodion ar-lein a 152 o lofnodion ar bapur, am gyfanswm o 269 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chyllid wedi penderfynu mai'r enw ar
gyfer ward unigol newydd tref Saltney yn Sir y Fflint fydd "Saltney
Fferi". Credwn fod hwn yn benderfyniad sy’n seiliedig ar gamgymeriad yn
adroddiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a gall arwain at ddryswch
ymhlith trigolion lleol mewn etholiadau.
Mae gan dref Saltney boblogaeth o tua 5,500 a dim ond tua 800 o’r bobl
hynny sy'n byw yn y gymuned fechan a elwir yn Saltney Fferi, sy'n rhan fach o'r
dref.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Tudalen 65 a 66 o adroddiad y Comisiwn Ffiniau yw’r rhan honno sy’n
cyfeirio’n benodol at yr ymgynghoriadau cefndir a’r argymhellion a ddilynodd
adroddiad y Comisiwn Ffiniau ac a arweiniodd at benderfyniad y Gweinidog i
alw’r ward newydd yn Saltney Fferi.
Mae mwyafrif helaeth trigolion Saltney yn credu bod hwn yn benderfyniad
chwerthinllyd sy’n seiliedig ar gamgymeriad a wnaed pan ysgrifennwyd yr
adroddiad, a bod yn rhaid ei newid ar fyrder.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/04/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y bydd yr etholiadau lleol sydd ar
ddod yn debygol o godi ymwybyddiaeth o'r enw ac, o unrhyw gynigion i'w newid o
bosibl. Cytunodd y Pwyllgor na ellid cymryd unrhyw gamau eraill a chytunodd i
gau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/04/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Alyn a Deeside
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/03/2022