P-06-1266 Profion COVID i blant sy'n addas i'r oedran

P-06-1266 Profion COVID i blant sy'n addas i'r oedran

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michelle Hurd, ar ôl casglu cyfanswm o 376 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Hoffwn i'r Llywodraeth ystyried mabwysiadu dull gwahanol o brofi plant, sef prawf PCR sy'n addas i’r oedran a elwir yn brawf lolipop. Y cyfan sydd angen i blentyn ei wneud yw sugno ar swab cotwm am oddeutu 30 eiliad, sy'n brofiad llawer llai annymunol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rwyf wedi gweld bod profion COVID-19 i blant ifanc yn gallu bod yn drawmatig i'r plentyn a'r rhiant, yn enwedig wrth brofi plant iau. Mae hyn yn debygol o waethygu gyda thymor y ffliw ac anwydau ar ddod. Mae plant sy'n dueddol o ddioddef peswch yn gorfod cael y prawf swab PCR yn rheolaidd cyn iddynt allu dychwelyd i'r ysgol. Mae'r profion hyn yn peri straen a gofid yn aml, a’r cyfyng-gyngor i rieni yw a ddylid ynysu plentyn, er mai annwyd yn unig sydd ganddo, i osgoi gorfod gwneud prawf. Mae yna opsiwn gwell i blant sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn yr Almaen. Mae'n brawf PCR sy'n briodol i'r oedran a elwir yn brawf 'lolipop', ac mae'n ddibynadwy iawn. Tybed pam nad ydym yn cynnig y prawf hwn yn y DU. Hoffwn ofyn i'r Llywodraeth fabwysiadu’r dull hwn fel ffordd fwy caredig o brofi plant ifanc. Mae’n hen bryd i ni leddfu’r gofidion sy’n gysylltiedig â phrofion!

 

 

person holding white and blue box

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/04/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau y bydd profion llai annymunol ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i roi gwybod i’r deisebydd fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno profion llai annymunol.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/04/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/04/2022