P-06-1226 Dileu'r hyn sy'n rhwystro mynediad i waith cymdeithasol ac annog parch cydradd rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd

P-06-1226 Dileu'r hyn sy'n rhwystro mynediad i waith cymdeithasol ac annog parch cydradd rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan ‘Cardiff University Social Work Masters Cohort’, ar ôl casglu cyfanswm o 475 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae polisi presennol Llywodraeth Cymru yn gosod caledi diangen ar ddarpar weithwyr cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr sy’n dilyn cwrs meistr mewn gwaith cymdeithasol yn cael eu gwahardd rhag cael benthyciad i fyfyrwyr a bwrsariaeth gofal cymdeithasol ar yr un pryd.

Rydym yn galw ar Senedd Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru annog a chefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol o bob cefndir, cael gwared ar rwystrau i'r proffesiwn, a datblygu mwy o barch cydradd rhwng y gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae myfyrwyr sy’n dilyn cwrs meistr mewn gwaith cymdeithasol yn cael eu gwahardd rhag cael benthyciad i fyfyrwyr a bwrsariaeth gofal cymdeithasol ar yr un pryd. Mae hyn yn arwain at ddiffyg o filoedd o bunnoedd heb unrhyw gefnogaeth ar gyfer llety, bwyd, biliau cyfleustodau, car, a chostau byw cyffredinol am dros ddwy flynedd.

Mae hyn yn gosod pwysau aruthrol ar weithlu'r dyfodol ac yn rhwystr i'r proffesiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein cydweithwyr yn y GIG gyda grantiau i dalu ffioedd dysgu yn llawn, yn ogystal â chaniatáu mynediad i fwrsariaethau costau byw neu dalu cyflog. Cafodd llawer o fyfyrwyr y GIG y taliad COVID pan gafodd myfyrwyr gwaith cymdeithasol eu heithrio. Mae hynny er gwaetha’r ffaith bod myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn rheoli miloedd o lwythi achosion ledled Cymru yn ystod y pandemig.

Mae’r diffyg parch cydradd rhwng gwaith cymdeithasol a gofal iechyd yn cael ei gyfleu i’r dim gan y driniaeth wahaniaethol ymhlith myfyrwyr Cymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cyllid uchaf erioed – sef £227m – ar gyfer addysgu a hyfforddi gweithlu'r GIG. Byddai llai na 0.2% o'r swm hwnnw'n unioni’r anawsterau sy'n wynebu myfyrwyr cwrs meistr mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru.

 

woman holding mans hand

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/04/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y ddeiseb wedi llwyddo i sicrhau y bydd rhagor o gyllid ar gael ar gyfer carfannau o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol ôl-raddedig yn y dyfodol, ac y bydd hyn yn gwella’r sefyllfa. Mae opsiynau eraill yn cael eu datblygu a disgwylir i gynllun gweithlu gwaith cymdeithasol gael ei gyhoeddi. Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebwyr ar eu llwyddiant a chau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 24/01/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2021